04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Y Prif Weinidog yn cadarnhau rheolau newydd i Gymru ar deithio rhyngwladol

HEDDIW, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd teithio rhyngwladol yn ailddechrau i bobl yng Nghymru o ddydd Llun 17 Mai.

Fel rhan o’r newidiadau i reoliadau’r coronafeirws yng Nghymru, bydd pobl sy’n byw yng Nghymru yn cael teithio i rai cyrchfannau tramor heb fod angen iddynt dreulio cyfnod mewn cwarantin ar ôl dychwelyd.

Ond bydd camau diogelwch ychwanegol yn cael eu cyflwyno i helpu i atal achosion newydd o’r coronafeirws rhag cael eu mewnforio i Gymru.

Bydd system goleuadau traffig, fel sydd gan Loegr a’r Alban, yn cael ei chyflwyno. Bydd gwledydd yn cael eu rhoi mewn categori gwyrdd, oren neu goch, gan ddibynnu beth yw’r cyfraddau coronafeirws yn y gwledydd hynny.

Mae cwarantin gorfodol ar waith ar gyfer pawb sy’n dychwelyd i’r DU o wledydd ar y rhestrau oren a choch. Rhaid i bawb sy’n dychwelyd ar ôl teithio dramor gael prawf PCR.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Bydd Cymru, fel rhannau eraill o’r DU, yn ailddechrau teithio rhyngwladol. Ond diogelu iechyd pobl yw ein prif flaenoriaeth o hyd, ac rydym am wneud popeth yn ein gallu i atal y coronafeirws rhag cael ei ailfewnforio i Gymru.

“Ni fydd hyn fel teithio yn y gorffennol. Bydd pawb sy’n teithio dramor yn gorfod cael prawf ar ôl cyrraedd adref, a bydd gofyn i lawer o bobl dreulio cyfnod mewn cwarantin ar ôl dychwelyd. Bydd dirwyon sylweddol yn cael eu rhoi i’r rhai nad ydynt yn dilyn y gofynion cyfreithiol.

“Nid yw rhai gwledydd yn caniatáu i bobl o’r DU deithio yno eto. Fy nghyngor cryf i yw mai dyma’r flwyddyn i aros gartref a mwynhau popeth sydd gan Gymru i’w gynnig.”

O dan y rheolau teithio rhyngwladol:

Nid yw pobl sy’n cyrraedd o’r gwledydd sydd ar y rhestr werdd yn gorfod treulio cyfnod mewn cwarantin ar ôl dychwelyd i Gymru, ond mae’n rhaid iddynt archebu a thalu am brawf PCR gorfodol cyn neu ar yr ail ddiwrnod wedi iddynt ddychwelyd. Bydd pob teithiwr ac aelodau eu haelwydydd hefyd yn cael eu hatgoffa bod profion llif unffordd ychwanegol ar gael i fonitro eu hiechyd.
Mae’n ofynnol i bobl sy’n cyrraedd o’r gwledydd sydd ar y rhestr oren dreulio cyfnod o 10 diwrnod mewn cwarantin gartref ar ôl dychwelyd. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol. Mae gofyn hefyd iddynt archebu profion PCR gorfodol ar gyfer yr ail ddiwrnod a’r wythfed diwrnod, a thalu am y profion hynny. Yn wahanol i Loegr, nid yw Cymru’n gweithredu cynllun profion rhyddhau, lle gellir cymryd prawf ychwanegol ar y pumed diwrnod i leihau’r cyfnod cwarantîn. Y rheswm am hyn yw bod tua 30% o bobl sy’n datblygu Covid-19 yn gwneud hynny ar ôl y pumed diwrnod.
Mae’n ofynnol i bobl sy’n cyrraedd o wledydd sydd ar y rhestr goch dreulio 10 diwrnod llawn mewn cwarantin ar ôl cyrraedd man dynodedig yn y DU, a hynny mewn cyfleuster a reolir gan y llywodraeth – ‘gwesty covid’ – ar eu cost eu hunain, gan ddechrau o £1,750 y pen. Yn Lloegr neu yn yr Alban y mae holl bwyntiau mynediad y DU ar gyfer pobl sy’n cyrraedd o wledydd ar y rhestr goch, sy’n golygu y bydd angen i drigolion Cymru sy’n dychwelyd o’r gwledydd hynny fynd i gwarantin y tu allan i Gymru. Mae hefyd yn ofynnol i deithwyr archebu profion PCR gorfodol ar yr ail ddiwrnod a’r wythfed diwrnod a thalu am y profion hynny.
Bydd pobl nad ydynt yn dilyn y rheolau ar gyfer gwledydd ar y rhestr goch yn wynebu hysbysiadau cosb benodedig o £10,000.

Rhaid i drigolion Cymru hefyd gydymffurfio â’r gofynion ar gyfer ymwelwyr ag unrhyw wlad y maent yn bwriadu teithio iddi. Gall cyfyngiadau fod ar waith, gan gynnwys tystiolaeth o frechu, profion, cwarantin a’r rhesymau dros ddod i’r wlad.

O ddydd Llun 24 Mai ymlaen, bydd tystysgrifau statws brechu ar gael i bobl yng Nghymru sydd wedi cael dau ddos o’r brechiad ac sydd angen teithio ar frys i wlad lle mae gofyn iddynt ddangos prawf o’u brechiadau Covid.

Ychwanegodd y Prif Weinidog:

“Rydyn ni’n galw ar bobl i feddwl a oes angen iddyn nhw deithio dramor ar hyn o bryd. Dylem fod yn ofalus ynghylch mynd dramor yng ngoleuni’r risg barhaus o coronafeirws a phresenoldeb amrywiolynnau sy’n peri pryder mewn llawer o wledydd.

“Fy neges glir i bawb yw hyn – dewiswch Gymru fel cyrchfan eleni.”

%d bloggers like this: