03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ydych busnes yn gymwys i gael cymorth Gronfa Cadernid Economaidd ?

CYHOEDDWYD gan Gweinidog yr  Economi, Ken Skates, ragor o wybodaeth am y gronfa sy’n werth £500 miliwn gan gynnwys y meini prawf ar gyfer pa fusnesau ac elusennau sy’n gymwys, er mwyn eu galluogi i baratoi i wneud cais.

Bydd y broses ymgeisio i fusnesau sy’n gymwys i gael cymorth ariannol trwy’r Gronfa Cadernid Economaidd ar agor ddydd Gwener 17 Ebrill trwy wefan Busnes Cymru.

Mae y gronfa’n darparu cymorth ariannol ychwanegol yn ystod pandemig y coronafeirws ac yn cynorthwyo sefydliadau i reoli pwysau o ran llif arian. Bydd o gymorth i fynd i’r afael â bylchau nad ydynt yn cael eu llenwi gan y cynlluniau a gyhoeddwyd eisoes gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru.

Meddai Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn gam pwysig arall tuag at roi i fusnesau, elusennau a mentrau cymdeithasol y cymorth a’r tawelwch meddwl sydd ei angen arnynt ar adeg eithriadol o anodd.

“Rydyn ni’n darparu’r £200 miliwn nesaf trwy’r gronfa – swm sylweddol o arian. Bydd ar gael i gwmnïau sy’n bodloni’r meini prawf, ac mae wedi’i gynllunio i helpu’r busnesau a’r sefydliadau elusennol hynny sy’n brwydro â phroblemau llif arian.

“Bydd y gronfa ar agor i geisiadau yr wythnos nesaf, ond rhaid imi bwysleisio pa mor bwysig yw hi i’r rhai sy’n ystyried ymgeisio fynd trwy’r canllawiau i weld a ydyn nhw’n debygol o fod yn gymwys.

“Bydd y gronfa hon yn cyrraedd nifer sylweddol o fusnesau, elusennau a mentrau cymdeithasol, ond mae’n eglur na fydd yn cyrraedd pob un.

“Dyna pam rydyn ni’n galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu rhagor o gymorth ariannol i gwmnïau yng Nghymru i helpu i’w llywio trwy’r cyfnod eithriadol o anodd hwn. Mae hefyd angen inni weld yr arian o’r cynlluniau sydd wedi’u cyhoeddi yn cyrraedd busnesau lawer cyflymach nag ar hyn o bryd.”

Mae gwybodaeth am yr ail gam hwn o’r Gronfa Cadernid Economaidd ar gael ar wefan Busnes Cymru.

Bydd y cam hwn yn targedu microfusnesau, busnesau bach a chanolig a busnesau mawr o bwysigrwydd economaidd neu gymdeithasol allweddol i Gymru, a bydd yn rhyddhau cyllid gwerth £200 miliwn.

Pan gyflwynwyd y cam cyntaf, roedd cynllun benthyciadau Banc Datblygu Cymru, gwerth £100 miliwn, wedi’i danysgrifio’n llwyr ymhen wythnos. Mae’r ceisiadau i gyd wrthi’n cael eu prosesu.

I fod yn gymwys ar gyfer yr ail gam hwn, rhaid i fusnesau, elusennau a mentrau cymdeithasol fodloni cyfres o feini prawf gan gynnwys y canlynol:

  • Gallai microfusnesau, gan gynnwys busnesau newydd, sy’n cyflogi hyd at naw o weithwyr fod yn gymwys i gael cymorth gwerth hyd at £10,000. Mae hyn yn cynnwys unig fasnachwyr sy’n cyflogi staff. Gallai busnesau yn y categori hwn fod yn gymwys i gael cymorth:
    – os ydynt wedi gweld eu trosiant yn gostwng dros 40% ers 1 Mawrth 2020
    – os gallant ddangos y gwnaed ymdrechion i gynnal gweithgarwch y busnes
    – os nad ydynt yn ymgeisio am fathau eraill o gymorth grant gan Lywodraeth Cymru nad oes rhaid ei ad-dalu
    – os nad ydynt yn gymwys i gael grantiau rhyddhad ardrethi busnes
  • Gallai busnesau bach a chanolig sy’n cyflogi rhwng 10 a 249 o weithwyr fod yn gymwys i gael grantiau o hyd at £100,000:
    – os ydynt wedi gweld eu trosiant yn gostwng dros 60% ers 1 Mawrth 2020
    – os nad ydynt yn gymwys i gael grantiau rhyddhad ardrethi busnes, neu os ydynt, byddai’r swm hwnnw’n cael ei dynnu o’u dyraniad o’r gronfa hon
    – os oes ganddynt gynllun busnes cynaliadwy i fasnachu y tu hwnt i’r pandemig COVID-19
    – os ydynt yn cadarnhau na fydd unrhyw ddileu swyddi gorfodol yn digwydd yn y dyfodol cyn belled ag y bo’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod Coronafeirws ar waith
    – os nad ydynt yn ymgeisio am fathau eraill o gymorth grant gan Lywodraeth Cymru nad oes rhaid ei ad-dalu

Bydd cyllid ar gael hefyd i gefnogi busnesau mawr sy’n cyflogi dros 249 o weithwyr. Ystyrir pob cais yn unigol, fesul achos, er mwyn ystyried y mannau mwyaf effeithiol i ddefnyddio cyllid i gyd-fynd â ffynonellau cymorth eraill.

Meddai’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:

“Mae’r gronfa hon yn rhan o fwy na £2 biliwn o gymorth rydyn ni wedi’i ddarparu i helpu busnesau ac elusennau yn ystod y cyfnod anodd hwn.

“Mae cymorth i fusnesau yn hanfodol bwysig, ac mae’n fater a gafodd le blaenllaw dros ben yn y trafodaethau pan gwrddais â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys a Gweinidogion Cyllid y gweinyddiaethau datganoledig ddoe. Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu yng Nghymru i lenwi unrhyw fylchau ac i ddarparu’r cymorth ariannol gorau bosibl i fusnesau, ond mae’n eglur bod camau ychwanegol y mae angen i Lywodraeth y DU eu cymryd ar frys.”

 

%d bloggers like this: