04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ymateb ar unwaith yn dilyn y newyddion bod WRW Construction yn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr

MAE Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymryd camau ar unwaith yn dilyn y newyddion bod y cwmni o Lanelli, WRW Construction, yn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Mae cyfarwyddwyr y cwmni wedi hysbysu’r Cyngor eu bod yn y broses o roi’r cwmni yn nwylo’r gweinyddwyr yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau sydd wedi rhoi’r busnesau ‘o dan straen ariannol sylweddol’.

Yng ngoleuni’r cyhoeddiad, mae’r Cyngor wedi cymryd camau ar unwaith i ddiogelu dau safle datblygu mawr sydd ar waith ar hyn o bryd yn Sir Gaerfyrddin – Prosiect Denu Pentywyn a chynllun tai fforddiadwy yn Dylan, Llanelli.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Emlyn Dole: “Mae hyn yn newyddion anffodus a fydd yn sicr o effeithio ar weithwyr ac is-gontractwyr lleol. Mae WRW Construction wedi gweithio gyda ni i ddatblygu sawl cynllun mawr dros nifer o flynyddoedd, gan gynnwys ysgolion a chartrefi, ac rydym yn flin o glywed am ei gwymp.

“Ein ffocws ar unwaith oedd mynd ati i ddiogelu dau safle datblygu mawr sydd ar waith ar hyn o bryd – Prosiect Denu Pentywyn a chynllun tai fforddiadwy yn Dylan, Llanelli. Ar hyn o bryd rydym yn casglu gwybodaeth ac yn darparu cymorth ymarferol i gynorthwyo is-gontractwyr sy’n ymwneud â’r gwaith ar y ddau safle hyn.

“Fel gyda phob prosiect mawr, mae trefniadau wrth gefn ar waith. Felly, rydym yn hyderus y gallwn ailafael yn y gwaith i barhau i gyflawni’r ddau brosiect mawr hyn yn y dyfodol agos, er y bydd hyn yn anochel yn arwain at rywfaint o oedi a chostau ychwanegol, y bydd angen eu hasesu. Byddwn yn rhoi diweddariadau pellach i chi maes o law.”

Mae’r Cyngor wedi lansio Cynllun Adfer Economaidd cadarn yn ddiweddar i gefnogi diwydiannau lleol yn sgil Covid a Brexit.

Mae’n cydnabod y gall llawer o fusnesau ar draws ystod o sectorau ddod i drafferthion dros y blynyddoedd nesaf ac mae’n nodi ystod o fesurau i’w cefnogi.

Ychwanegodd y Cynghorydd Dole: “Er ein bod yn deall nad yw amgylchiadau cwymp WRW Construction yn gysylltiedig â’r materion hyn, byddwn, serch hynny, yn gweithredu’r mesurau hyn i liniaru effaith y sefyllfa hon.

“Rydym eisoes wedi cael swyddogion cymorth busnes o’n tîm datblygu economaidd i roi cyngor a gwybodaeth i’r rheiny y mae hyn yn effeithio arnynt. Byddwn hefyd yn cyflymu ystod o gyfleoedd cyflogaeth o fewn yr awdurdod a allai ddarparu cyflogaeth amgen addas i bobl sydd â sgiliau trosglwyddadwy, a byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i nodi a hyrwyddo cyfleoedd hyfforddi a swyddi perthnasol eraill.

“Mae hon yn sefyllfa drist i bawb sy’n gysylltiedig â hi, ond byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pawb y mae hyn yn effeithio arnynt.”

Os yw’r newyddion hwn yn effeithio arnoch a bod angen cyngor neu gymorth cyflogaeth arnoch, neu os ydych yn gontractwr sy’n ymwneud â’r datblygiadau ym Mhentywyn neu Dylan, Llanelli, a bod angen gwybodaeth arnoch, cysylltwch â thîm datblygu economaidd Cyngor Sir Caerfyrddin ar 01267 234567 neu e-bostiwch communitybureau@sirgar.gov.uk

%d bloggers like this: