03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ymateb Llywodraeth Cymru i gyhoeddi data perfformiad diweddaraf GIG Cymru

MAE Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad ar ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau 19 Mai).

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Wrth i’r gwasanaeth iechyd barhau i adfer o’r pandemig, a mwy o bobl yn dod ymlaen â phryderon iechyd, rydym wedi gweld y nifer uchaf o atgyfeiriadau am apwyntiad claf allanol cyntaf ers mis Ionawr 2020, gydag ychydig dros 115,000 o atgyfeiriadau wedi’u gwneud ym mis Mawrth. Mae’r cynnydd hwn yn helpu i egluro pam mae cyfanswm maint y rhestrau aros wedi cynyddu 1.4% ers y mis blaenorol. Dylid nodi bod lefelau gweithgarwch ar gyfer triniaeth a chleifion allanol ar eu huchaf ers dechrau’r pandemig.

Nifer yr apwyntiadau cleifion allanol ym mis Mawrth oedd yr uchaf ers mis Ionawr 2020 (255,384). Ar ben hyn, roedd nifer y triniaethau cleifion mewnol ac achosion dydd ar ei uchaf ers dechrau’r pandemig.

Nifer y llwybrau cleifion a gaeodd ym mis Mawrth, hynny yw’r bobl sydd wedi dechrau triniaeth neu nad ydynt bellach ei hangen, oedd yr uchaf ers dechrau’r pandemig, gydag 1.7% yn fwy ar gyfartaledd nag ym mis Chwefror.

Er bod cyfanswm y niferoedd sy’n aros am brofion diagnostig yn parhau i gynyddu, mae’r niferoedd sy’n aros yn hirach na’r targed wyth wythnos wedi gostwng am yr ail fis yn olynol i’w lefel isaf ers mis Ebrill 2021 a chan 4.9% o’i gymharu â mis Chwefror 2022.

Gwelodd mis Mawrth hefyd y lefel uchaf o weithgarwch mewn gwasanaethau canser ers mis Rhagfyr 2020. Roedd cynnydd o 12.4% yn nifer y bobl a ddechreuodd eu triniaeth gyntaf yn dilyn diagnosis canser newydd, o’i gymharu â’r mis blaenorol.

Caewyd 12,643 o lwybrau ar ôl i gleifion cael gwybod nad oedd ganddynt ganser, cynnydd o 11.1% ers mis Chwefror 2022.

Mae’r Cynllun Adfer Gofal wedi’i Gynllunio a gyhoeddwyd fis diwethaf yn nodi cyfres o uchelgeisiau. Yr uchelgais cyntaf oedd lleihau nifer y llwybrau agored sy’n aros dros 52 wythnos am apwyntiad claf allanol cyntaf i sero erbyn diwedd 2022. Ym mis Mawrth 2022, roedd gostyngiad o 1% yn nifer y llwybrau sy’n aros dros 52 wythnos am apwyntiad claf allanol cyntaf o’i gymharu â mis Chwefror.

Ym mis Mawrth 2022, roedd gostyngiad o 4.8% yn nifer y llwybrau sy’n aros dros 52 wythnos o’i gymharu â mis Mawrth 2021.

Er gwaethaf y cynnydd yng nghanran y llwybrau cleifion sy’n aros mwy na 36 wythnos ym mis Mawrth, gostyngodd yr amser aros cyfartalog am driniaeth a chynyddodd y gyfran sy’n aros llai na 26 wythnos.

Fis hwn, cyhoeddir data 111 am y tro cyntaf ers cyflwyno’r gwasanaeth ledled Cymru. Ym mis Ebrill, cafodd bron i 86,000 o alwadau eu gwneud i’r gwasanaeth 111, sef 2,863 o alwadau y diwrnod ar gyfartaledd. Mae’r gwasanaeth yn cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac mae ar gael ar-lein ar GIG 111 Cymru neu dros y ffôn drwy ffonio 111. Bydd yn rhoi cyngor iechyd cyfredol i bobl a chanllawiau ar ba wasanaeth GIG sydd orau iddynt.

Mae staff a gwasanaethau ambiwlans argyfwng 999 ac adrannau achosion brys yn parhau i fod o dan bwysau sylweddol ac nid yw perfformiad yn y sefyllfa rydym am iddo fod. Mae ein rhaglen Chwe Nod ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng wedi’i lansio i gefnogi gwelliannau mewn canlyniadau a phrofiadau drwy helpu staff i ddarparu’r gofal cywir yn y lle iawn, y tro cyntaf pan fo’n bosibl.

Roedd gostyngiad yng nghyfartaledd derbyniadau dyddiol i adrannau achosion brys ym mis Ebrill, a gwelliant bychan mewn perfformiad yn erbyn y targedau. Mae nifer y galwadau ‘coch’, neu alwadau lle mae bywyd yn y fantol, yn parhau i fod yn uchel, gyda chynnydd o 36% o’i gymharu â’r un mis yn 2021. Mae cynllun cyflawni cenedlaethol byw ar waith i gefnogi gwelliant parhaus, gan gynnwys i gefnogi mynd i’r afael ag oedi wrth drosglwyddo cleifion ambiwlans.

Mae’n bwysig nodi y cafodd bron i 400,000 o ymgyngoriadau â chleifion eu gweld gan y GIG yng Nghymru ar gyfer triniaeth frys neu ddewisol.”

%d bloggers like this: