YR wythnos ddiwethaf, gwrthododd y Goruchaf Lys cais Llywodraeth Cymru am ganiatâd i apelio yn erbyn Gorchymyn y Llys Apêl am adolygiad barnwrol o’r Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 gan ddweud yr odd yn gynamserol.
Mewn datganiad ymatebodd Mick Antoniw AS, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad:
“Mae Llywodraeth Cymru yn parhau’n glir yn ei gwrthwynebiad i Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020. Mae hwn yn ymosodiad na ellir ei gyfiawnhau ar ddatganoli ac ar hawl y Senedd i ddeddfu heb ymyrraeth mewn meysydd sydd wedi eu datganoli i Gymru.”
Ychwanegodd y Gweinidog:
“Rydym wedi ein siomi gan ddyfarniad y Llys. Fodd bynnag, wrth wneud yr hyn sydd, yn ei hanfod, ar y cam hwn, yn benderfyniad gweithdrefnol, nid yw’r Llys wedi gwrthod ein dadleuon o sylwedd ac mae wedi gadael y drws yn agored i’r mater hwn gael ei ystyried ar adeg briodol yn y dyfodol.
Byddwn yn awr yn ystyried sut y gallwn fwrw ymlaen orau â’n her i’r Ddeddf, er mwyn diogelu a mynnu hawl ddemocrataidd y sefydliad hwn i ddeddfu ar ran pobl Cymru.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m