04/24/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ymchwilio i hanes teulu yn llwyddiant yn Sir Gaerfyrddin / Family history research success in Carmarthenshire

MAE mwy o bobl yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn ymchwilio i’w gorffennol nag erioed o’r blaen.

Ers dechrau’r pandemig coronafeirws mae dros 155,000 o chwiliadau wedi cael eu cofnodi gan lyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin lle mae aelodau o’r llyfrgell wedi manteisio ar gael mynediad am ddim i Ancestry.com gartref.

Mae hynny’n gynnydd o 220% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a mwy nag unrhyw lyfrgelloedd yng Nghymru.

Mae Ancestry Library Edition yn cwmpasu cronfeydd data’r DU a chronfeydd data rhyngwladol ac yn rhoi mynediad i gofnodion y cyfrifiad, mynegeion genedigaethau, priodasau a marwolaethau, cofrestri capeli, cofnodion milwrol, ewyllysiau a mwy.

Fel arfer darperir mynediad i’r wefan ar gyfrifiaduron cyhoeddus y gwasanaeth llyfrgelloedd ond mewn ymateb i’r pandemig mae Ancestry wedi caniatáu i’w gwsmeriaid llyfrgelloedd chwilio ei wybodaeth helaeth o’u cartrefi.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths “Mae’n amlwg bod llawer o drigolion wedi manteisio ar gyfnod y cyfyngiadau symud i ymchwilio i straeon eu teuluoedd a’u cartrefi eu hunain. Mae’r ffigurau trawiadol hyn yn dangos poblogrwydd y gwasanaethau hanes teulu a hanes lleol gwerthfawr a ddarperir gan ein llyfrgelloedd. Yn ogystal â chryfhau ein hunaniaeth, mae ymchwilio i fywydau ein hynafiaid a’n hardaloedd lleol yn ein helpu i ddeall sut mae ein cymunedau wedi datblygu a newid. Mae hefyd yn ein hatgoffa bod ein hynafiaid wedi byw drwy gyfnodau heriol ac wedi eu goresgyn – neges bwysig yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Gall unrhyw un sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yn Sir Gaerfyrddin fwynhau’r llyfrgell ddigidol am ddim drwy ddod yn aelod. Yn ogystal ag Ancestry, mae dros 19,000 o gomics a llyfrau i’w lawrlwytho. Gall aelodau hefyd gael mynediad i’r prawf gyrru theori a’r prawf Bywyd yn y DU, lawrlwytho papurau newydd, dysgu iaith newydd, cael mynediad i dros 500 o storïau a gweithgareddau rhyngweithiol i blant, dysgu pwnc newydd, dysgu rhagor am feddalwedd gyfrifiadurol drwy sesiynau tiwtorial ar-lein, a chwilio drwy gannoedd o wyddoniaduron.

Os nad ydych eisoes yn aelod, gallwch ymuno yma tra bod ein llyfrgelloedd ar gau https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/cy_GB/carm_cy

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’ch llyfrgell ranbarthol:

Llanelli – 01554 744327

Caerfyrddin – 01267 224824

Rhydaman – 01269 598360

More people in Carmarthenshire have been delving into their past than ever before.

Since the start of the coronavirus pandemic over 155,000 searches have been recorded by Carmarthenshire libraries of library members taking advantage of free access to Ancestry.com from home.

That is an increase of 220% compared to the previous year, and more than any libraries in Wales.

Ancestry Library Edition covers both UK and international databases and gives access to census records, indexes of births, marriages & deaths, chapel registers, military records, wills and more.

Access to the site is usually provided on the library service’s public computers but in response to the pandemic, Ancestry has allowed library customers to search its wealth of information from their homes.

Cllr Peter Hughes Griffiths said “Many residents have clearly used the lockdown to explore the stories of their own families and homes. These impressive figures demonstrate the popularity of the highly valued family and local history services provided by our libraries. As well as increasing our sense of identity, researching the lives of our ancestors and local areas help us understand how our communities have developed and changed. It also reminds us that our ancestors lived through challenging times too and overcame them – an important message during these hard times.”

Anyone who lives, works or studies in Carmarthenshire can enjoy the digital library for free by becoming a member. As well as Ancestry, there are over 19,000 comics and books to download. Members can also access the driving theory and Life in the UK tests, download newspapers, learn a new language, access over 500 interactive stories and activities for children, learn a new subject, get up to speed on computer software with online tutorials, and search through hundreds of encyclopaedias.

If you are not already a member, you can join here whilst our libraries are closed https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/en_GB/carm_en#

For further information contact your regional library:

Llanelli – 01554 744327

Carmarthen – 01267 224824

Ammanford – 01269 598360

 

%d bloggers like this: