03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen i redeg Theatr y Metropole Abertyleri

MAE Cyngor Blaenau Gwent wedi cytuno ar drefniant darparu gwasanaeth amgen ar gyfer Y Metropole yn Abertyleri lle caiff ei redeg gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, gan sicrhau dyfodol y safle ar gyfer perfformiad a hyrwyddo celf a diwylliant yn y dref.

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn 2015 fel sefydliad elusennol gydag amcanion i hybu cyfleoedd diwylliannol. Diben Awen yw ‘Gwneud Bywydau Pobl yn Well’ drwy ddarparu gofod a chyfle i bobl fwynhau profiadau diwylliannol bywiog sy’n ysbrydoli ac yn hybu eu hymdeimlad o lesiant. Mae gan Awen gynlluniau am ddyfodol disglair ar gyfer y theatr yn dilyn cyfyngiadau COVID-19, yn cynnwys digwyddiadau proffesiynol a chymunedol, gan gadw’r celfyddydau perfformio  yn fyw yn Abertyleri a’r cylch.

Mae mwy o wybodaeth am Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yma.

Fe wnaeth Cyngor Blaenau Gwent gymeradwyo Strategaeth Hamdden a Diwylliannol 10-mlynedd ar gyfer y fwrdeistref sirol yn ddiweddar yn unol â’i amcanion ar gyfer iechyd a llesiant preswylwyr lleol.

Caiff y Metropole ei reoli ar hyn o bryd gan Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin a chedwir aelodau staff i oruchwylio’r gweithrediadau dydd-i-ddydd, hurio ac ymgysylltu â’r gymuned leol.

Mae’r gallu i’r Cyngor ddilyn opsiynau darpariaeth gwasanaeth eraill yn golygu y gall weithio mewn partneriaeth gyda grwpiau cymwys sydd â diddordeb i reoli a gweithredu cyfleusterau i’r holl gymuned barhau i’w mwynhau.

Rhoddodd Pwyllgor Gweithredol y Cyngor gefnogaeth unfrydol i’r cynlluniau.

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol Addysg y Cyngor gyda chyfrifoldeb am reoli’r berthynas gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin:

“Mae gennym ymrwymiad i barhau gwasanaethau hamdden a chyfleoedd celf a diwylliant ym Mlaenau Gwent gan y gwyddom pa mor bwysig yw hyn i iechyd a llesiant pobl o bob oed yn ein cymunedau.

Mae’n gyffrous y gallwn, drwy weithio mewn partneriaeth a chytuno ar y ffordd ymlaen gydag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, gadw’r cyfleuster pwysig hwn yn Abertyleri a’r cylch. Rwy’n gwirioneddol edrych ymlaen at fynychu perfformiad yno pan fyddwn yn gallu dychwelyd i theatrau.”

Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Hamdden Awen:

“Rydym yn falch iawn i weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i sicrhau dyfodol bywiog i’r Met.

Wrth i ni edrych at ddyfodol mwy disglair i ddod, pan y gobeithiwn y gall theatrau a gofodau perfformiad ailagor yn ddiogel, rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r staff yn y Met i ddatblygu ymhellach ei raglen o ddigwyddiadau proffesiynol, a gafodd gefnogaeth mor dda dros y blynyddoedd gan y bobl leol.

Edrychwn ymlaen hefyd at ddod i adnabod y corau lleol, cymdeithasau drama, cerddorion, ysgolion dawns a grwpiau eraill sy’n cyfrannu cymaint i fywyd diwylliannol a threftadaeth Abertyleri, fel y gallant hwythau hefyd barhau i fod yn rhan o raglen barhaus y Met o ddigwyddiadau cymunedol.

Mae ymdeimlad gwirioneddol o gyffro yn Awen ar ddod â thîm newydd, sy’n rhannu ein gwerthoedd ac ymrwymiad i’r celfyddydau a diwylliant i’n sefydliad, a gyda’n gilydd byddwn yn gweithio tuag at bontio llyfn dros yr ychydig fisoedd nesaf.

Ar nodyn personol, ar ôl gweithio yn Abertyleri a’r Met ei hunan am flynyddoedd lawer, mae’n wych medru gwneud hyn eto a gweithio wrth ochr y gymuned wych yma.”

Dywedodd Phill Sykes, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin:

“Mae hwn yn ddatblygiad gwych i’r Met ac mae’n staff yn edrych ymlaen yn fawr iawn at barhau eu gwaith rhagorol o ddod â digwyddiadau diwylliannol cyffrous i’r gymuned ar draws Blaenau Gwent. Mae gan Awen gyfoeth o brofiad yn rheoli safleoedd celfyddydau a bydd yn rhoi’r arbenigedd i dyfu a datblygu’r adnodd gwerthfawr hwn a bydd ein ffocws yn parhau i fod ar wella bywyd y gymuned drwy ein chwaraeon, parciau, addysg a chyfleusterau llyfrgell.”

%d bloggers like this: