03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ymestyn rôl Heléna Herklots fel Comisiynydd Pobl Hŷn

MAE Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd Heléna Herklots CBE yn aros yn ei rôl fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am ddwy flynedd arall.

Yn dilyn ymgynghoriad gyda phobl hŷn yng Nghymru, mae’r Prif Weinidog wedi cytuno i ymestyn swydd Heléna Herklots fel Comisiynydd Pobl Hŷn am ddwy flynedd arall o 20 Awst 2022.

Ers ei phenodi yn 2018 fel llais annibynnol ac eiriolwr ar gyfer pobl hŷn ar draws Cymru, mae hi wedi gweithio i wneud yn siŵr bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed ac wedi helpu i wneud newidiadau positif sy’n diwallu anghenion pobl hŷn.

Mae’r Comisiynydd yn gweithio i:

hybu ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru;

herio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru;

annog arferion gorau yn y ffordd y mae pobl hŷn yn cael eu trin yng Nghymru; ac

adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Rwy’n falch iawn y bydd Heléna Herklots yn parhau fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Mae pobl hŷn yn cyfrannu cymaint at ein cymunedau ac mae’n bwysig bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Mae Heléna wedi gweithio’n galed i eirioli ar gyfer pobl hŷn yn ystod ei chyfnod yn y swydd ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i gydweithio â Heléna dros y ddwy flynedd nesaf wrth inni gydweithio i greu Cymru sydd o blaid pobl hŷn.”

Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE:

“Mae’n fraint bod yn Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ac rwy’n falch o gael y cyfle i wasanaethu am ddwy flynedd arall.

Rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda phobl hŷn fel eu heiriolwr annibynnol, ac adeiladu ar y cynnydd rydym wedi’i wneud gyda’n gilydd, yn ogystal ag ymdrin â’r heriau newydd y mae llawer o bobl hŷn yn eu hwynebu.

Rwy’n gwerthfawrogi’r perthnasoedd gwaith adeiladol sydd gennyf gyda sefydliadau a chyrff cyhoeddus ar draws Cymru, aelodau’r Senedd a Llywodraeth Cymru. Gyda’n gilydd rhaid inni ymdrechu i wneud yn siŵr bod pobl hŷn yn cael eu gwerthfawrogi, bod eu hawliau’n cael eu hamddiffyn ac nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.”

%d bloggers like this: