MAE Cabinet Rhondda Cynon Taf wedi cytuno i fwrw ymlaen â fersiwn ddrafft o Strategaeth y Gyllideb ar gyfer 2022/23 ar ôl ystyried y cynigion manwl ddydd Iau. Bellach, mae modd i drigolion ddweud eu dweud drwy gymryd rhan mewn ymgynghoriad a fydd yn cael ei gynnal tan 11 Chwefror.
Mae’r Cabinet wedi mynd ati i ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu’r cynigion ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf, yn dilyn Setliad Llywodraeth Leol ffafriol gan Lywodraeth Cymru. Cafodd y cynigion eu cymeradwyo. Wedi’i gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2021, mae’r setliad arfaethedig yn nodi y bydd Rhondda Cynon Taf yn derbyn cynnydd mewn cyllid gwerth 8.4% ar gyfer 2022/23.
Mae hyn yn uwch na’r ystod a gafodd ei modelu a’i hadrodd gan y Cyngor yn gynnar yn yr hydref, ac mae’n cydnabod llawer o bwysau costau ychwanegol y mae’r Cyngor yn eu hwynebu. Mae’r fersiwn ddrafft o Strategaeth y Gyllideb yn cynnwys £11.2 miliwn ychwanegol ar gyfer ysgolion, y cynnydd isaf erioed yn Nhreth y Cyngor ar gyfer y Fwrdeistref Sirol, a chynnydd yng nghyflog ein staff a darparwyr gofal cymdeithasol wedi’i gomisiynu i lefel uwch na’r Cyflog Byw Gwirioneddol.
Yn ogystal â bwrw ymlaen â’r cynigion, cytunodd y Cabinet ar argymhelliad o ran amserlen i bennu’r gyllideb ar gyfer 2022/23. Mae hyn yn cynnwys ail gam ymgynghori o tan ddydd Gwener 11 Chwefror. Mae manylion yr ymgynghoriad ar wefan.
Mae modd i drigolion gymryd rhan drwy arolwg, arolygon cyflym ac adran ‘syniadau’ ar y wefan. Mae modd hefyd ddod o hyd i wybodaeth allweddol am y fersiwn ddrafft o Strategaeth y Gyllideb, fersiynau Hawdd eu Darllen o’r deunyddiau ymgynghori a fideo. Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn targedu grwpiau allweddol gan gynnwys pobl iau a phobl hŷn.
Meddai’rCynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf:
“Rwy’n falch bod Aelodau’r Cabinet wedi cytuno i fwrw ymlaen â’r fersiwn ddrafft o Strategaeth y Gyllideb ar gyfer 2022/23, a bod modd i aelodau’r cyhoedd bellach ddweud eu dweud yn ffurfiol ar yr hyn sy’n cael ei gynnig yng ngham dau o’r broses ymgynghori ar y gyllideb.
“Mae’r setliad arfaethedig gan Lywodraeth Cymru yn dda i ni, gyda chynnydd o 8.4% yn y gyllideb ar gyfer Rhondda Cynon Taf y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn adlewyrchu’r pwysau ariannu y mae Llywodraeth Leol yn parhau i’w hwynebu, ac mae hefyd yn cydnabod y rôl hanfodol y mae Awdurdodau Lleol yn parhau i’w chwarae wrth gadw trigolion yn ddiogel yn ystod y pandemig. Mae angen i ni fuddsoddi mewn gwasanaethau hanfodol sy’n helpu ein cymunedau, a bydd hyn yn gadael i ni drafod gwneud hynny.
“Mae nodweddion allweddol y fersiwn ddrafft o Strategaeth y Gyllideb yr oedd y Cabinet wedi cytuno arni ddydd Iau yn cynnwys codi’r isafswm cyflog i lefel sy’n uwch na’r Cyflog Byw Gwirioneddol. Mae hyn yn berthnasol i staff y Cyngor ac i staff gofal cymdeithasol sydd wedi’u cyflogi gan ddarparwyr gwasanaethau rydyn ni’n eu comisiynu. Hefyd, byddai cynnydd arfaethedig o 1% yn Nhreth y Cyngor yr isaf ers creu Rhondda Cynon Taf, ac mae’n debygol o fod yn un o’r isaf yng Nghymru unwaith eto’r flwyddyn nesaf. Roedd y setliad wedi golygu bod modd i ni ailfodelu lefel y cynnydd o 2.65%, sef yr hyn a oedd wedi’i nodi’n wreiddiol yn yr ymgynghoriad.
“Mae’r cynigion hefyd yn cynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer blaenoriaethau allweddol – £11.2 miliwn i’n hysgolion, £15 miliwn ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol (gan gynnwys gwasanaethau cymunedol), £500,000 i fynd i’r afael â Newid yn yr Hinsawdd, £100,000 ar gyfer y Cynllun Rhyddhad Lleol ar gyfer Ardrethi Annomestig, £200,000 ar gyfer Iechyd y Cyhoedd, £1 miliwn ar gyfer Buddsoddiad a £75,000 ar gyfer Cymorth Ieuenctid. Mae hyn wedi’i gyflawni hefyd wrth amsugno rhai o gostau’r cynnydd cyffredinol mewn costau a ffioedd, yn ogystal â nodi £4.9 miliwn pellach o arbedion effeithlonrwydd ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn golygu mai cyfanswm yr arbedion effeithlonrwydd yw tua £100 miliwn dros y 10 mlynedd diwethaf.
“Cytunodd y Cabinet hefyd y bydd cam dau o’r broses ymgynghori ar y gyllideb eleni yn dechrau ar 28 Ionawr tan 11 Chwefror. Mae’r broses yma unwaith eto’n cael ei chynnal ar ein gwefan ymgysylltu Dewch i Siarad, ac erbyn hyn mae modd i drigolion ddweud eu dweud yn ffurfiol ar y cynigion. Dyma annog trigolion sydd â diddordeb i gymryd rhan. Byddwn ni’n ystyried yr holl ymatebion yn rhan o’r penderfyniad terfynol gan y Cabinet a’r Cyngor llawn er mwyn pennu’r gyllideb ar gyfer 2022/23 yn gynnar ym mis Mawrth eleni.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m