09/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ymgynghoriad ar Strategaeth Gorfforaethol Cyngor Sir Ceredigion

YN ystod mis Medi bydd Cyngor Sir Ceredigion yn ymgynghori ar ei Strategaeth Gorfforaethol newydd ar gyfer y pum mlynedd nesaf, sef 2022-27.

Mae’r Cyngor yn ceisio barn gan holl drigolion Ceredigion er mwyn helpu i lywio cyfleoedd yn y dyfodol i wella lles holl drigolion a chymunedau Ceredigion.

Mae’r Strategaeth Gorfforaethol ddrafft yn nodi blaenoriaethau’r Cyngor, a elwir yn Nodau Llesiant Corfforaethol, ynghyd â’n huchelgeisiau a’r camau i gyflawni’r rhain dros y pum mlynedd nesaf. Mae’r Strategaeth yn llywio popeth y mae’r Cyngor yn ei wneud. Fe’i datblygwyd yn seiliedig ar adolygiad eang o dystiolaeth ac asesiadau anghenion, gan gynnwys Asesiad Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion o Lesiant Lleol.

Y Nodau Llesiant Corfforaethol arfaethedig yw:

Hybu’r economi, cefnogi busnesau a galluogi cyflogaeth;

Creu cymunedau gofalgar ac iach;

Darparu’r dechrau gorau mewn bywyd a galluogi pobl o bob oed i ddysgu; a

Creu cymunedau cynaliadwy a gwyrdd ac sydd wedi’u cysylltu’n dda â’i gilydd

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion:

“Mae Strategaeth Gorfforaethol newydd y Cyngor yn ddogfen bwysig i Geredigion. Mae’n nodi uchelgeisiau’r weinyddiaeth newydd a’r blaenoriaethau ar gyfer gwella lles dinasyddion a chymunedau Ceredigion. Byddwn yn annog holl drigolion a busnesau Ceredigion i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a dweud eu dweud. Bydd hyn yn helpu i lywio ein blaenoriaethau ac yn chwarae rhan hanfodol wrth wella lles i bawb yng Ngheredigion”.

%d bloggers like this: