03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ymgynghoriad Cyhoeddus ar agor ar waith yn gysylltiedig â champws addysg newydd yn y Tyllgoed

GWAHODDIR aelodau o’r cyhoedd i rannu eu barn ar waith sy’n gysylltiedig â sefydlu campws addysg cyfunol newydd i’w leoli yn ardal y Tyllgoed yn y ddinas.

Mae’r ymgynghoriad yn nodi’r cam nesaf yn natblygiad y ddarpariaeth addysg hon, y prosiect mwyaf – o ran maint a buddsoddiad – o blith datblygiadau addysg Caerdydd dan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu’r Cyngor a Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Band B Llywodraeth Cymru, os eir ymlaen ag ef.

Byddai tair ysgol newydd yn cael eu gosod ar un safle, gan greu cartref i Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Riverbank ac Ysgol Uwchradd Woodlands.  Byddai’r campws ar y cyd hefyd yn cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau cynhwysfawr a fydd ar gael at ddefnydd y cyhoedd y tu allan i oriau’r ysgol.

Yn amodol ar gynllunio a chaffael, disgwylir i’r gwaith o adeiladu’r campws newydd ddechrau’n gynnar y flwyddyn nesaf a dod i ben ym mlwyddyn academaidd 2025/26.

Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddodd Cyngor Caerdydd y byddai ISG yn ymgymryd â’r broses ddylunio ac adeiladu fanwl ar gyfer y cynllun, gan gynnwys yr adeiladau dros dro sy’n gysylltiedig â’r gwaith.

Mae’r Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio ar agor tan 11 Gorffennaf 2022 ac mae’n caniatáu i bobl ddweud eu dweud am y gwaith galluogi cyn i gais cynllunio gael ei gyflwyno i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys sefydlu ysgol dros dro i’w lleoli yn ne’r safle i gynnwys;

Ystafelloedd dosbarth a derbynfa symudol, maes parcio dros dro’r ysgol, neuadd chwaraeon, cegin a ffreutur;

Llwybr troed dros dro o Heol y Tyllgoed i Rodfa Doyle;

Ffens Terfyn; ac

Meysydd chwaraeon ac Ardaloedd Gemau Amlddefnydd (MUGAs) a ffensys a goleuadau cysylltiedig

Dwedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:

“Yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn yw’r cam nesaf yn natblygiad campws addysgol ar y cyd cyntaf Caerdydd ac mae’n garreg filltir gyffrous ar gyfer dyfodol Ysgolion Cantonian, Woodlands a Riverbank.

“Mae’r gwaith galluogi sy’n gysylltiedig â’r prosiect a sefydlu adeiladau ysgol dros dro ar gyfer Ysgol Uwchradd Cantonian, yn rhan annatod o’r prosiect a fydd, pan fydd wedi’i gwblhau, yn darparu cyfleusterau, arbenigedd a chyfleoedd addysgu eithriadol i fyfyrwyr, staff a’r gymuned.

“Rwy’n annog pobl i ddweud eu dweud i helpu i lunio’r cynlluniau a fydd yn cefnogi datblygiad y campws arloesol hwn sy’n cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn ardal y Tyllgoed ac a fydd yn sicrhau bod y gymuned leol yn elwa o amwynderau modern, rhagorol.”

I weld y cynigion ac i ddweud eich dweud, ewch i: Cantonian High School, Fairwater Road, Cardiff / Ysgol Uwchradd Cantonian High School, Fairwater Road, Caerdydd (asbriplanning.co.uk)

Cynhelir sesiwn galw heibio i’r cyhoedd yn Hyb y TyllgoedDoyle Avenue, CF5 3HU,ar ddydd Mercher 22 Mehefin o 12 – 6pm

Mae Campws y Tyllgoed yn ddatblygiad arloesol yng Nghaerdydd sy’n gosod y safon ar gyfer prosiectau ysgolion yn y dyfodol fel y campws ysgol cyntaf i fod yn garbon sero-net, gan dargedu gostyngiad sylweddol mewn carbon a ymgorfforir hefyd yn ystod cam adeiladu’r prosiect. Mae hyn yn golygu y bydd y tair ysgol yn adeiladau hynod effeithlon o ran ynni, wedi’u pweru o ffynonellau ynni adnewyddadwy, gan alluogi Caerdydd i weithredu ar ei Strategaeth Un Blaned sy’n amlinellu uchelgais y ddinas iliniaru newid yn yr hinsawdd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:

“Hon fydd ein hysgol Garbon Sero-net gyntaf, ac mae’r prosiect hwn yn cefnogi ein hymateb i’r argyfwng newid yn yr hinsawdd ac yn cyd-fynd â gweledigaeth Un Blaned Caerdydd i fod yn Garbon Niwtral erbyn 2030.

Rhagwelir y bydd y Cais Cynllunio ar gyfer adeiladu’r campws newydd yn cael ei gyflwyno ym mis Medi 2022 ac os caiff ei gymeradwyo bydd yn cynnwys;

Codi adeiladau ysgol newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Cantonian yn lle’r rhai presennol ar yr un safle gan ehangu’r ysgol o chwe dosbarth mynediad i wyth dosbarth mynediad gyda darpariaeth chweched dosbarth i hyd at 250 o ddisgyblion;

Ehangu’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) ar gyfer dysgwyr sydd â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistig (CSA), a leolir yn Ysgol Uwchradd Cantonian, i 30 lle mewn adeiladau pwrpasol ar safle newydd yr ysgol;

Adleoli Ysgol Woodlands i gampws y Tyllgoed o’i safle presennol gerllaw Parc Trelái a chynyddu’r capasiti i 240 o ddisgyblion mewn adeilad newydd;

Adleoli Ysgol Riverbank i gampws y Tyllgoed o’i safle presennol gerllaw Parc Trelái a chynyddu’r lle i ddarparu ar gyfer 112 o ddisgyblion mewn adeilad newydd.

I ddysgu mwy am Strategaeth Un Blaned Cyngor Caerdydd ewch iDogfen weledigaeth OPC.pdf (oneplanetcardiff.co.uk)

 

%d bloggers like this: