03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ymgynghoriad cyhoeddus ar Feicffordd 4.2 yn dechrau

MAE gan Gyngor Caerdydd gynlluniau uchelgeisiol i wella llwybrau teithio llesol ar gyfer pob oedran a gallu. Mae hyn yn rhan o uchelgais y cyngor i wella ansawdd aer, lleihau allyriadau carbon, mynd i’r afael â thagfeydd a gwella iechyd y cyhoedd.

Nod Beicffordd 4.2 yw darparu llwybr ar wahân o ansawdd uchel i ganol y ddinas i gymunedau presennol Pontcanna, Llandaf, Radur a Danescourt, a datblygiadau tai newydd yng ngogledd-orllewin y ddinas.

Mae Beicffordd 4.1, sydd eisoes wedi’i hadeiladu, yn caniatáu i feicwyr fynd o Barc Bute, i fyny drwy Gaeau Llandaf i Rodfa’r Gorllewin. Bydd yr ail gam (4.2) yn mynd â beicwyr ar draws Rhodfa’r Gorllewin yn ddiogel a hyd at Landaf, drwy Brifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Bydd cam olaf wedyn yn estyn Beicffordd 4 at y datblygiadau tai newydd yng ngogledd orllewin Caerdydd.

Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos yn cau ar 4 Mai 2021. Ceir pecyn ymgynghori llawn drwy ddilyn y ddolen hon:https://www.caerdydd.gov.uk/beicffyrdd

Bydd y pum opsiwn yr ymgynghorir arnynt yn caniatáu i feicwyr groesi Rhodfa’r Gorllewin yn ddiogel gan ddefnyddio croesfan twcan newydd, ar hyd un o’r llwybrau canlynol:

Opsiwn A: Byddai’r llwybr beicio newydd yn defnyddio’r llwybr presennol ar ochr ogleddol campws Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, ac yn parhau gyfochr â’r llwybr ger yr afon cyn mynd tua’r de drwy Ddôl Llandaf at Lawnt y Gadeirlan, yna Heol y Bont ac yn olaf at Heol Llantrisant.

Opsiwn B: Byddai’r llwybr hwn yn mynd â beicwyr tua’r gorllewin ar hyd llwybr yr afon, gan ymadael tua’r dwyrain ger y clwb rhwyfo ar Heol y Bont. Byddai’r llwybr beicio wedyn yn mynd drwy’r datblygiad newydd a gynigiwyd ar safle blaenorol BBC Cymru ac at Heol Llantrisant.

Opsiwn C: Byddai’r trydydd opsiwn yn teithio ar hyd ochr ddwyreiniol Rhodfa’r Gorllewin a byddai’n defnyddio’r groesfan bresennol i groesi’r ffordd, a fyddai’n cael ei gwneud yn groesfan twcan newydd. Byddai’r llwybr hwn ar hyd y llwybr presennol sy’n mynd tua’r de o Fynwent Llandaf at Glos y Cadeirlan, Lawnt y Gadeirlan, Heol y Bont ac yna i Heol Llantrisant.

Opsiwn D: Y pedwerydd opsiwn fyddai defnyddio’r llwybr presennol ar ochr ogleddol campws Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, gan ymuno â’r llwybr ger yr afon, cyn ymadael tua’r dwyrain ger y clwb rhwyfo ar Heol y Bont, drwy hen stiwdios BBC Cymru Wales i Heol Llantrisant.

Opsiwn E: Byddai’r opsiwn olaf hefyd yn defnyddio’r llwybr presennol ar ochr ogleddol campws Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, gan barhau ar hyd y llwybr sydd gyfochr â’r llwybr ger yr afon.

Byddai’r llwybr beicio wedyn yn mynd tua’r de drwy Ddôl Llandaf tuag at Eglwys Gadeiriol Llandaf, ac yna tua’r gorllewin i ymuno â’r llwybr ger yr afon, cyn ymadael tua’r dwyrain ger y clwb rhwyfo ar Heol y Bont, drwy hen stiwdios BBC Cymru Wales at Heol Llantrisant.

 

%d bloggers like this: