04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion buddsoddi £8.5m gyfer Ysgol Llyn-y-Forwyn

MAE Cyngor RCT wedi cychwyn ymgynghoriad cyhoeddus ar ei gynigion ar gyfer ysgol newydd gwerth £8.5 miliwn ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn-y-Forwyn yng Nglynrhedynog. Gwahoddir trigolion i ddarganfod rhagor o wybodaeth a dweud eu dweud erbyn diwedd mis Ebrill.

Ym mis Ionawr 2021, rhoddodd Aelodau’r Cabinet gymeradwyaeth ffurfiol i’r Cyngor ymgynghori ar y cynigion, a fydd yn darparu cyfleusterau Ysgolion y 21ain Ganrif ac yn gwella ansawdd yr addysg gynradd cyfrwng Cymraeg sy’n cael ei gynnig yn lleol.

Byddai adeilad ysgol newydd yn cael ei adeiladu erbyn 2024 ar dir i’r gogledd o’r Ucheldir yng Nglynrhedynog, neu Ffatri ‘Chubb’ yn lleol. Fyddai’r defnydd o’r safle newydd yma ddim yn effeithio ar ddalgylch YGG Llyn-y-Forwyn. Byddai’n cynnig dewis arall cyfagos i’r adeiladau Fictoraidd presennol sydd ddim yn hygyrch ac sydd angen gwaith cynnal a chadw gwerth dros £1 miliwn ar hyn o bryd.

Mae’r mannau chwarae awyr agored ar lethr ac mae hyn yn golygu bod dysgu yn yr awyr agored yn her, a does dim mannau gwyrdd ar gael. Yn ogystal â hyn, does dim darpariaeth parcio i staff ar y safle. Mae’n rhaid i gerbydau cludiant ysgol ddefnyddio’r mannau preswyl ger yr ysgol, gan amharu ar y gymuned ehangach.

Byddai manteision defnyddio’r safle newydd yn cynnwys darparu amgylcheddau dysgu modern a hyblyg, cyfleusterau mewnol ac allanol hygyrch at ddefnydd y gymuned, gwell lleoedd awyr agored i gefnogi’r ystod lawn o weithgareddau cwricwlwm, maes parcio i staff a man gollwng i fysiau ysgol.

Mae ymgynghoriad cyhoeddus am y cynlluniau gwerth £8.5 miliwn bellach ar y gweill, a bydd yn dod i ben ddydd Gwener, 30 Ebrill.Mae gwybodaeth fanwl ar gael yn adran ‘Ymgynghoriadau sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd’ ar wefan y Cyngor, lle mae modd i drigolion hefyd ddweud eu dweud trwy lenwi arolwg ar-lein. Dyma’r manylion llawn am sut i gymryd rhan: 

Bydd y Cyngor hefyd yn adolygu’r llwybrau diogel i’r ysgol leol yn rhan o’r buddsoddiad, byddai modd i hyn arwain at fuddsoddi mewn llwybrau cerdded, croesfannau a mesurau arafu traffig ar gyfer y gymuned.

Meddai’r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant:

“Yn ddiweddar, trafododd y Cabinet y cynnig cyffrous yma ar gyfer YGG Llyn-y-Forwyn. Oherwydd byddai angen buddsoddiad sylweddol i wella cyfleusterau ar gyfer yr ysgol a photensial y safle a nodwyd i gyflawni’r datblygiad, cytunodd yr Aelodau y dylai’r Cyngor ymgynghori â’r gymuned. Mae’r broses yma bellach wedi cychwyn, a bydd modd i drigolion gael rhagor o fanylion a dweud eu dweud tan ddiwedd mis Ebrill.

“Nod y cynigion yw adeiladu adeiladau newydd â chyfleusterau modern i gymryd lle’r adeiladau cyfyngedig presennol. Mae cyfleusterau o’r fath yn cael eu mwynhau mewn mwy o gymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol trwy ein rhaglenni Ysgolion yr 21ain Ganrif a’n rhaglenni moderneiddio ysgolion. Mae YGG Llyn-y-Forwyn yn cyflawni’n dda, fel y cadarnhawyd gan ei harolygiad diweddaraf gan Estyn. Gwnaeth yr arolygiad sylwadau hefyd ar safon a defnydd cyfyngedig ei ardaloedd awyr agored. Nod cynigion y Cyngor yw cywiro hyn trwy adeiladu amgylchedd newydd y mae disgyblion a staff yn ei haeddu.

“Byddai’r buddsoddiad hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, sy’n nodi sut y bydd y Cyngor yn gwella ac yn ehangu ar y ddarpariaeth Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf – ac yn cyfrannu at weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg yn 2050.  Byddai’n ategu prosiectau buddsoddi eraill sydd ar ddod ar gyfer Ysgol Gyfun Rhydywaun ym Mhenywaun, Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr yng Nghwmdâr a’r cynigion ar gyfer ardal ehangach Pontypridd.

“Rydw i’n annog y rhai sydd â diddordeb yn natblygiad YGG Llyn-y-Forwyn i ddweud eu dweud ar y cynigion cyn Ebrill 30. Bydd yr holl adborth yn cael ei ddarllen a’i ystyried gan swyddogion er mwyn helpu i fireinio a chwblhau’r prosiect.”

%d bloggers like this: