04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ymgynghoriad cyhoeddus ar Rheoliadau drafft Gwarchod Plant a Gofal Dydd

MAE Llywodraeth Cymru am glywed eich barn ar reoliadau drafft i ddisodli’r Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010.

Mewn datganiad ysgrifenedig dywedodd Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Dros yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi gwneud sawl cyhoeddiad pwysig ynghylch sut rydyn ni, fel Llywodraeth, yn cefnogi’r sector gofal plant ac yn darparu mwy o ofal sy’n cael ei gyllido gan y Llywodraeth i rieni a gofalwyr, gan gynnwys y rheini mewn addysg a hyfforddiant. Mae’n bleser hefyd gallu cynyddu cyfradd ein Cynnig Gofal Plant fesul awr o 1 Ebrill, a fydd o fudd i ddarparwyr a rhieni.

Ochr yn ochr â hyn, rhaid inni gymryd camau i sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau glas yma yng Nghymru i wneud yn siwr bod ein plant yn cael gofal da ar safleoedd darparwyr gofal plant cofrestredig. Er mwyn cyflawni hyn, mae gennym ddeddfwriaeth ar waith i leihau’r risg o niwed i’n plant yn sgil dod i gysylltiad â phobl sy’n anaddas i ofalu amdanynt.

Heddiw rwy’n lansio ymgynghoriad ar reoliadau drafft i ddisodli Rheoliadau presennol Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010. Mae’r rheoliadau presennol yn ymwneud â phobl sydd wedi cofrestru, neu sy’n dymuno cofrestru, fel gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd yng Nghymru; ac maent yn cynnwys nifer o resymau pam y gellir datgymhwyso unigolyn rhag cael ei gofrestru i ddarparu’r gwasanaethau hyn, gan gynnwys, er enghraifft, cyflawni troseddau difrifol yn erbyn plentyn neu Orchymyn Gofal neu Oruchwylio mewn perthynas â phlentyn sydd yn ei ofal.

Mae’r rheoliadau drafft yr wyf yn eu cyhoeddi heddiw yn cynnwys diweddariadau pwysig i’r ddeddfwriaeth bresennol, sy’n adlewyrchu troseddau perthnasol a gyflwynwyd ers i reoliadau 2010 gael eu gwneud. Rydym hefyd yn achub ar y cyfle hwn i awgrymu rhai newidiadau polisi. Mae hyn yn cynnwys y posibilrwydd o gael gwared ar ddarpariaethau sy’n anghymhwyso unigolion rhag cofrestru i ddarparu gofal dydd (ar safle y tu allan i’w cartref) ar sail y ffaith eu bod yn byw gyda rhywun sydd wedi’i anghymhwyso. Rydym hefyd yn ystyried cael gwared ar rai anghysondebau yn y ddeddfwriaeth bresennol i sicrhau bod pobl a fu’n destun Gorchmynion Gofal neu Oruchwylio yn y gorffennol, ynghyd â gofalwyr maeth, gofalwyr sy’n berthnasau a’r rheini sy’n mabwysiadu yn cael eu trin yn deg.

Mae rhagor o fanylion am yr holl newidiadau sy’n cael eu cynnig i’w gweld yn y deunydd ymgynghori ac yn y rheoliadau drafft rwy’n eu cyhoeddi heddiw.

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid a’n rhanddeiliaid allweddol i godi cymaint o ymwybyddiaeth â phosibl o’r ymgynghoriad ymhlith y bobl y bydd hyn yn effeithio arnynt fwyaf.

Bydd yr ymgynghoriad ar agor ar gyfer ymatebion tan 23 Mehefin 2022 ac edrychwn ymlaen at glywed beth mae pobl yn ei feddwl o’r newidiadau rydym yn eu cynnig. Bydd yr adborth hwn yn ein helpu i lunio’r rheoliadau terfynol yr ydym yn gobeithio eu gwneud yn yr hydref.”

%d bloggers like this: