03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ymgynghoriad yn bosib gyfer cam nesaf ar adfywio Pontypridd

MAE’N bosibl y bydd y Cabinet yn cytuno i ymgynghori â thrigolion ar Gynllun Creu Lleoedd drafft ar gyfer adfywio canol tref Pontypridd yn y dyfodol – yn ogystal â bwrw ymlaen â’r prosiectau ailddatblygu ar safleoedd hen Neuadd y Bingo a siop Marks & Spencer.

Bydd adroddiad a gaiff ei gyflwyno i’r Cabinet ddydd Llun, 28 Chwefror, yn nodi’r Cynllun Creu Lleoedd drafft. Mae hwn yn cyflwyno dull cynhwysol o benderfynu sut y bydd Pontypridd yn edrych ac yn gweithredu, yn ogystal â pha fath o brofiadau y bydd modd eu cael yno. Ar ôl nodi’r problemau a’r cyfleoedd yng nghanol y dref, nod y cynllun yw ceisio creu’r amodau delfrydol ar gyfer arlwy preswyl, swyddfeydd, gweithgarwch hamdden a diwydiant manwerthu llwyddiannus, tra’n manteisio ar dirwedd unigryw Pontypridd a sicrhau bod trafnidiaeth yn ystyriaeth allweddol.

Ei nod yw adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd gan Fframwaith Adfywio presennol Pontypridd (2017-2022). Roedd y gwaith yma’n cynnwys darparu Llys Cadwyn a Chwrt yr Orsaf (Gofal Ychwanegol Pontypridd), datblygiad prosiectau’r YMCA a’r Miwni, a buddsoddiad ym Mharc Coffa Ynysangharad.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Cynllun Creu Lleoedd Drafft ar gyfer Pontypridd:

Mae’r Cynllun Creu Lleoedd arfaethedig yn nodi uchelgeisiau craidd ar gyfer Pontypridd er mwyn llywio buddsoddiadau ar gyfer y dyfodol. Mae’r uchelgeisiau yma yn cynnwys bod yn gyrchfan busnes ac yn lle gwych i fyw, bod yn dref hygyrch sydd â chysylltiadau trafnidiaeth da, cynnig mannau gwyrdd ar lan yr afon a threflun unigryw, a bod yn gyrchfan ddiwylliannol a chymdeithasol, yn ogystal â thref gynhwysol a chydnerth.

Mae’r adroddiad yn ychwanegu bod pum ardal wedi’u nodi o fewn canol y dref a fydd yn feysydd ffocws penodol ar gyfer buddsoddiadau yn y dyfodol. Maen nhw’n cynnwys y canlynol:

Porth y De– ailddatblygu ardaloedd allweddol yn sylweddol, gan gynnwys hen Neuadd y Bingo a siopau M&S/Dorothy Perkins, gan wella cysylltedd rhwng yr orsaf drenau a’r stryd fawr. Bydd ardal gyhoeddus well a man hamddena ar ymyl yr afon yn croesawu ymwelwyr i’r dref. Cynigir hefyd bod rhannau o’r orsaf drenau yn cael eu defnyddio at amrywiaeth o ddibenion masnachol.

Craidd Canol y Dref – adeiladau wedi’u hadnewyddu sy’n darparu mannau gwaith, cartrefi, siopau a chyfleoedd hamdden, tra bod llwybr cerdded newydd ar lan yr afon yn cael ei sefydlu, ynghyd â chysylltiadau a gofodau gwell i gerddwyr ledled y dref.

Y Farchnad – adeilad marchnad wedi’i adnewyddu ac arlwy unigryw o ran siopau a chyfleoedd hamdden mewn lleoliad hanesyddol, gan greu cyrchfan sy’n eiddo iddo’i hun.

Porth y Gogledd – adfywiad parhaus yn y porth hwn i ganol y dref gan gynnwys gorsaf fysiau wedi’i hadnewyddu, llwybrau gwell i gerddwyr, a rhagor o leoedd gwaith a datblygiad defnydd cymysg ar Heol Berw.

Parc Coffa Ynysangharad – parc treftadaeth gyda lleoliad naturiol ar lan yr afon, arlwy chwaraeon a hamdden amrywiol, canolbwynt ar gyfer achlysuron diwylliannol a chymdeithasol, a man cychwyn ar gyfer archwilio Parc Rhanbarthol y Cymoedd.

Ddydd Llun, bydd modd i’r Cabinet gytuno i’r Cyngor gynnal gwaith ymgynghori â’r cyhoedd mewn perthynas â’r Cynllun Creu Lleoedd – a derbyn adroddiad pellach yn manylu ar yr adborth a dderbyniwyd maes o law.

Diweddariad ar gynnydd – adeiladau Neuadd y Bingo a siop M&S

Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad ar gynnydd cynlluniau ailddatblygu hen safle Neuadd y Bingo a Chlwb Nos Angharad’s. Cafodd yr adeiladau gwag a dadfeiliedig eu caffael (Mawrth 2020) ac wedyn eu dymchwel (Awst 2021) gan y Cyngor yn dilyn buddsoddiad o £2.2 miliwn ar y cyd â Llywodraeth Cymru.

Mae cyngor arbenigol wedi’i gomisiynu i ystyried amrywiaeth o ddefnyddiau masnachol ar gyfer y safle er mwyn gwneud y dref yn fwy cydnerth, ac mae’n amlwg yn cefnogi datblygiad a arweinir gan westy gydag unedau at ddefnydd manwerthu ar y llawr gwaelod. Mae profion o’r farchnad wedi dangos bod datblygwyr a gweithredwyr â diddordeb mewn symud y prosiect hwn yn ei flaen.

Gallai’r Cabinet gytuno y dylai’r Cyngor gynnal ymarfer caffael ffurfiol dros y chwe mis nesaf er mwyn sicrhau partner datblygu.

Mae’r Cyngor hefyd wedi caffael hen adeiladau Marks & Spencer, Dorothy Perkins a Burtons (96-99a a 100-102 Stryd y Taf), drwy fuddsoddiad gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru – gyda phresenoldeb y parc a safle neuadd y bingo gerllaw yn cynnig cyfleoedd datblygu cyffrous.

Mae gwaith dylunio cynnar a gomisiynwyd i edrych ar y cyfleoedd ar gyfer y safle yma’n dangos cyfle i agor canol y dref tuag at yr afon a’r parc – a hynny i ddarparu safleoedd hamdden, masnachol a manwerthu yn y lleoliad yma. Byddai’r gwaith ymgynghori ar Gynllun Creu Lleoedd ehangach Pontypridd, os cytunir arno, yn rhoi cyfle i ofyn am farnau ar gynigion cynnar ar gyfer y math yma o ddatblygiad.

Mae’r adroddiad yn ychwanegu nad yw hen adeilad M&S wedi’i gynnal a’i gadw, a’i fod mewn cyflwr gwael a fyddai’n dirywio ymhellach heb gyllid sylweddol. Mae hen adeilad Burtons/Dorothy Perkins wedi’i gynnal a’i gadw, ond mae’r adeilad ei hun o ansawdd pensaernïol gwael. Argymhellir felly bod y ddau adeilad yn cael eu dymchwel er mwyn caniatáu ailddatblygu’r safle cyfan yn y dyfodol.

Meddai’r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu, a Thai:

“Fel llawer o drefi eraill, mae Pontypridd wedi wynebu heriau i’w hyfywedd economaidd yn ddiweddar, sydd wedi’u gwaethygu gan effaith Storm Dennis a’r pandemig. Serch hynny, mae canol y dref, ei busnesau a’r gymuned wedi dangos gwydnwch anhygoel – ac mae rheswm dros fod yn obeithiol, gyda ffigurau nifer yr ymwelwyr rhwng Hydref a Rhagfyr 2021 fwy na 190,000 yn uwch na’r ffigurau ar gyfer yr un cyfnod yn 2019 – cyn i’r llifogydd a’r pandemig byd-eang ein taro ni.

“Mae’r adroddiad i’r Cabinet yn amlinellu cam nesaf y gwaith adfywio – gyda’r nod o adeiladu ar Fframwaith Adfywio presennol Pontypridd. Mae hyn wedi cynnwys adeiladu Llys Cadwyn a Chwrt yr Orsaf, datblygiad prosiectau Canolfan Gelfyddydau’r Miwni ac YMCA Pontypridd, a sicrhau dau gam o fuddsoddiad  ar gyfer Parc Coffa Ynysangharad. Ni fyddai’r math yma o gynnydd wedi dwyn ffrwyth heb ymyrraeth y Cyngor, gyda’r fframwaith yn sbarduno dulliau gweithredu cydgysylltiedig ac amserlenni ymarferol ar gyfer adfywio.

“Mae’r Cynllun Creu Lleoedd drafft ym Mhontypridd y bydd y Cabinet yn ei ystyried yn fuan yn dangos ymrwymiad y Cyngor i roi Pontypridd ar y map fel cyrchfan ranbarthol – ac i sicrhau buddsoddiad parhaus yn y blynyddoedd i ddod, er budd busnesau lleol a’r gymuned ehangach.

“Mae’r cynigion yn canolbwyntio ar bum ardal o’r dref, yn ogystal â nifer o uchelgeisiau allweddol sy’n manteisio ar dopograffeg unigryw Pontypridd, gyda phresenoldeb yr afon a’r parc gerllaw’r ardal fanwerthu. Mae’r adroddiad a gaiff ei gyflwyno i’r  Cabinet dydd Llun hefyd yn cynnig bod prosiect cyffrous Neuadd y Bingo yn symud i’r cam caffael ffurfiol, ac yn ceisio cymeradwyaeth ffurfiol i ddymchwel hen adeiladau M&S, Burtons a Dorothy Perkins. Byddai hyn yn agor y dref ymhellach ac yn galluogi datblygiadau newydd sylweddol yn y gofod eang hwn.

“Os bydd Aelodau’r Cabinet yn cytuno i hyn yr wythnos nesaf, byddai’r Cynllun Creu Lleoedd yn cael ei gyflwyno i drigolion mewn ymgynghoriad helaeth – er mwyn llywio’r gwaith adfywio arfaethedig ymhellach fel ei fod yn rhoi’r gwasanaeth gorau i gymuned Pontypridd.”

%d bloggers like this: