04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ymgyrch Easter – Heddlu Dyfed-Powys yn cydweithio â phartneriaid er mwyn gwarchod adar gwyllt sy’n nythu

O dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, mae’r holl adar gwyllt, eu nythod a’u hwyau wedi’u diogelu. Serch hynny, mae adar dal yn cael eu herlyn ac yn dioddef triniaeth greulon. Mae adar yn cael eu saethu, eu gwenwyno a’u dal yn anghyfreithlon, ac mae eu nythod yn cael eu dinistrio neu eu haflonyddu a’u hwyau’n cael eu dwyn.

Mae Ymgyrch Easter yn targedu lladron wyau drwy rannu cudd-wybodaeth ar draws y DU er mwyn cefnogi gweithgarwch gorfodi. Cafodd ei datblygu yn yr Alban 24 mlynedd yn ôl, ac erbyn hyn, mae’n cael ei hwyluso gan yr Uned Genedlaethol Troseddau Gwyllt ar y cyd â heddluoedd y DU ac asiantaethau partner. Mewn blynyddoedd diweddar, mae’r ymgyrch hefyd wedi’i hehangu i gynnwys rhai tueddiadau sy’n dod i’r amlwg o ran ymddygiad troseddol – cymryd cywion neu wyau adar ysglyfaethus yn anghyfreithlon ar gyfer hebogyddiaeth; masnachu wyau ar-lein ac aflonyddu ar nythod ar gyfer ffotograffiaeth.

Mae cymryd wyau adar gwyllt yn drosedd ddifrifol, ond eto, mae rhai unigolion penderfynol dal yn ei wneud. Gall nytheidiau cyfan o wyau gael eu cymryd gan rai o adar mwyaf prin y DU, ac mae’r effeithiau’n medru bod yn drychinebus. Mae’r wyau’n cael eu cadw mewn casgliadau cudd.

Dywedodd y Rhingyll Matthew Langley o Dîm Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt Heddlu Dyfed-Powys, sef arweinydd yr Heddlu ar gyfer Ymgyrch Easter:

“Mae Ymgyrch Easter wedi bod ar waith yn y DU ers 24 mlynedd. Mae Tîm Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt Heddlu Dyfed-Powys yn cydweithio’n agos â’r Uned Genedlaethol Troseddau Bywyd Gwyllt er mwyn chwarae ein rhan yn ymgyrch y DU gyfan.

“Darperir hyfforddiant er mwyn sicrhau bod gan staff wybodaeth am y ddeddfwriaeth benodol ar gyfer mynd i’r afael â’r drosedd hon, a’u bod nhw’n ymwybodol o safleoedd bridio.

“Bydd Cwnstabl Roger Jones, swyddog troseddau bywyd gwyllt sydd wedi’i secondio i Adnoddau Naturiol Cymru ar hyn o bryd, yn ymweld â’r safleoedd gydag asiantaethau partner ac aelodau eraill o’r tîm troseddau gwledig, ac fe fydd yn gysylltiedig â chasglu gwybodaeth a chudd-wybodaeth drwy batrolau targedig a thrwy gyfathrebu ag asiantaethau partner allweddol.

“Yr ydym yn awyddus i gasglu gwybodaeth bellach am ladradau wyau yn ardal Dyfed-Powys, a byddwn yn gofyn i aelodau o’n cymunedau i ddweud wrthym am unrhyw wybodaeth a allai fod ganddynt.

Dywedodd y Prif Arolygydd Kevin Kelly (Pennaeth yr Uned Genedlaethol Troseddau Bywyd Gwyllt): “Mae Ymgyrch Easter yn ddigwyddiad blynyddol sydd wedi ymdreiddio i blismona troseddau bywyd gwyllt. Eleni, yr ydym wedi rhoi pwyslais yr oedd mawr ei angen ar yr ymgyrch, gan ganolbwyntio ein hymdrechion ar gynorthwyo Swyddogion Heddlu Troseddau Bywyd Gwyllt ar y rheng flaen.

“Mae’r Uned Genedlaethol Troseddau Bywyd Gwyllt yn casglu ac yn rhannu gwybodaeth sy’n nodi’r mannau problemus lle mae’r troseddau’n debygol o gael eu cyflawni, ac rydyn ni’n gweithio gyda swyddogion heddlu a phartneriaid er mwyn sicrhau bod yr ardaloedd hyn o ddiddordeb yn derbyn y sylw maen nhw’n haeddu er mwyn gwarchod dyfodol ein hadar gwyllt. Mae gennym nifer o Swyddogion Heddlu Troseddau Bywyd Gwyllt medrus ac ymroddedig ledled y DU sydd wedi mabwysiadu’r ymgyrch hon a fydd yn gweithio gyda ni er mwyn lleihau troseddolrwydd, a mawr yw fy niolch iddynt am hyn.

Os oes gennych unrhyw wybodaeth ynglŷn â lladradau wyau, neu’r rhai sy’n aflonyddu ar adar sy’n nythu heb drwydded, dylech gysylltu â’ch heddlu lleol drwy alw 101 a gofyn am gael siarad â swyddog troseddau bywyd gwyllt os yn bosibl. Bydd nythu ar ei anterth erbyn mis Ebrill, felly cysylltwch â’r heddlu os welwch chi unrhyw un yn ymddwyn yn amheus o gwmpas adar sy’n nythu os gwelwch chi’n dda.

%d bloggers like this: