03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ymgyrch posteri gan Gyngor Sir Fynwy a Heddlu Gwent i hyrwyddo ysbryd cymunedol

LANSIWYD ymgyrch bosteri gan Gyngor Sir Fynwy a Heddlu Gwent i dynnu sylw at fesurau a gyflwynwyd er mwyn hyrwyddo negeseuon cadarnhaol am fynd â’ch sbwriel adref, gyrru’n ystyriol, a chadw lefelau sŵn i lawr mewn ystâd fasnachu boblogaidd yng Nghas-gwent.

Er mwyn atal sbwriel, gyrru ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae perchnogion Parc Masnach Larkfield, Cas-gwent, wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â’r cyngor a’r heddlu i ymgysylltu â thrigolion lleol.  Mae hyn wedi cynnwys cynnal cystadleuaeth gydag Ysgol y Santes Fair yng Nghas-gwent i ddylunio posteri gyda negeseuon cadarnhaol, a fydd yn cael eu harddangos ar y safle.  Mae’r negeseuon allweddol yn cynnwys mynd â’ch sbwriel adref, cadw sŵn mor isel â phosibl a bod yn garedig wrth eich cymdogion.

Dywedodd Paul Matthews, Prif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy:  “Rydym wedi bod yn awyddus i ymgysylltu â’r gymuned leol.  Gan weithio gyda Heddlu Gwent a Pharc Masnach Larkfield, rydym yn gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn gwneud pobl yn fwy ymwybodol bod unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael effaith ar gymdogaethau.  Mae’r posteri’n rhan allweddol o’r neges gadarnhaol hon.  Mae’r plant wedi cynhyrchu gwaith dychmygus a chreadigol ac mae eu holl ymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr.”

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent:

“Mae Parc Masnach Larkfield yn agos at dai, felly byddai unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio’n uniongyrchol ar breswylwyr.  Rydym yn falch o weld y gymuned yn dod at ei gilydd i’n helpu gyda hyn.  Mae’r posteri a gynlluniwyd gan y plant ysgol yn wych, a byddant yn helpu i godi ymwybyddiaeth a gyrru’r negeseuon adref.”

Meddai Julian Bladen o Bladen Commercial Property Consultants, sy’n rheoli Parc Masnach Larkfield:

“Rydym am ganmol yr ymdrech a roddwyd i mewn i’r posteri gan blant Ysgol y Santes Fair ac roedd yn benderfyniad anodd i ddewis enillydd. Mae’n wych gweld ymwybyddiaeth y plant o ran sbwriel a sŵn, i barchu perchnogion eiddo cyfagos.”

Mae’r ceisiadau buddugol bellach wedi’u dewis ac mae’r plant wedi derbyn wyau Pasg dathlu a roddwyd gan Julian Bladen, rheolwr Parc Masnach Larkfield, fel diolch am eu gwaith caled.

%d bloggers like this: