03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ymweld â Cheredigion yn ddiogel ac yn barchus

Yn ôl y disgwyl, mae Ceredigion eisoes yn profi i fod yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr eleni. Gan fod disgwyl i ymwelwyr rheolaidd a thro cyntaf ynghyd ag aroswyr lleol anelu am ein harfordir a’n cefn gwlad dros y misoedd nesaf, gofynnwn iddynt wneud hynny’n ddiogel ac yn barchus.

 

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn barod i groesawu ymwelwyr a gyda mesurau ar waith i sicrhau eu bod yn mwynhau’r sir ar ei gorau yn ddiogel, mae:

 

· Parthau Diogel wedi’u cyflwyno yng nghanol ein trefi

· Gweithdrefnau olrhain cyswllt effeithiol ar waith

· Cynorthwywyr Ymwelwyr yn ymweld â mannau poblogaidd i gynnig cyngor a chymorth.

 

Fodd bynnag, mater i bob un ohonom yw gwneud Ceredigion yn le diogel a difyr i ymweld ag ef. Nid yw coronafeirws wedi diflannu, ac mae’r amrywiad diweddar yn peri pryder.

 

Mae’n bwysig ein bod ni yn:

· Aros yn lleol

· Cefnogi yn lleol

· Gofalu a pharchu ein gilydd

· Gofalu a pharchu ein cymunedau a’r amgylchedd

· Cyfarfod y tu allan gan ei fod yn fwy diogel na’r tu mewn

· Cadw ein cyswllt cymdeithasol mor isel â phosib

· Profi a hunan-ynysu hyd yn oed gyda symptomau ysgafn

· Parhau i ddilyn y canllawiau.

 

Cymerwch gyfrifoldeb a gwnewch eich rhan yr haf hwn. Gadewch i ni gadw Ceredigion yn ddiogel fel y gallwn barhau i wneud y pethau rydyn ni’n eu caru.

 

I gynllunio eich ymweliad â Ceredigion, ewch i wefan Darganfod Ceredigion, www.darganfodceredigion.cymru/cynllunio-eich-ymweliad/

%d bloggers like this: