04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Yn ‘Arwyr y Byd Gwyllt’ yn Sialens Ddarllen yr Haf

MAE plant ar draws Sir Gaerfyrddin yn cymryd rhan mewn sialens i fwynhau straeon a helpu i achub y byd dros wyliau haf yr ysgol.

Mae llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin yn cymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf gan The Reading Agency, ac mae silffoedd llyfrau a mannau darllen yn cael eu trawsnewid yn jyngloedd a choedwigoedd glaw wrth i staff fynd ati i greu thema bywyd gwyllt eleni.

Mae’r sialens eleni yn cael ei rhedeg mewn partneriaeth â WWF gyda’r awdur a’r darlledwr arobryn Dara McAnulty a’r archwiliwr, cyflwynydd a’r awdur arobryn Steve Backshall, fel llysgenhadon ar gyfer y cynllun.

Gall plant rhwng pedair ac 11 oed fynd i unrhyw un o lyfrgelloedd Cyngor Sir Caerfyrddin i ddod yn ‘Arwyr y Byd Gwyllt’ am ddim.

Byddant yn cael poster casglwr i gadw cofnod o’u taith Sialens Ddarllen yr Haf ac yn cael sticeri arbennig, gemau a mwy wrth iddynt ddarllen mwy o lyfrau.

Mae timau llyfrgell hefyd yn cynnal gweithgareddau, digwyddiadau a sioeau ffilm amrywiol drwy gydol yr haf.

Drwy gymryd rhan bydd plant nid yn unig yn gwella eu sgiliau darllen ond yn ennill gwybodaeth am faterion amgylcheddol, o lygredd plastig a datgoedwigo i ddirywiad bywyd gwyllt a cholli natur, gan ymuno â chymeriadau stori i helpu i ddatrys rhai o’r bygythiadau hyn.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn rhad ac am ddim ac yn hwyl a bydd yn helpu i ysbrydoli plant i ddarllen dros y gwyliau, gan ddefnyddio ein llyfrgelloedd gwych a’n faniau llyfrgelloedd symudol sy’n teithio i rannau gwledig o Sir Gaerfyrddin.

“Rydym wedi ymrwymo i gefnogi plant a theuluoedd i wella eu llythrennedd, ac mae thema eleni yn cyd-fynd yn dda â’n cenhadaeth i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Rydym yn gobeithio gweld cynifer o blant â phosibl yn cofrestru ac yn dod yn llysgenhadon ar gyfer materion amgylcheddol wrth iddynt fwynhau llyfrau dros yr haf.”

Ychwanegodd Steve Backshall, llysgennad Sialens Ddarllen yr Haf: “Bydd Arwyr y Byd Gwyllt yn sbarduno sgyrsiau am y materion sy’n wynebu ein planed, o lygredd plastig i ddirywiad bywyd gwyllt, a bydd yn dangos sut y gall pob un ohonom weithio gyda’n gilydd i ofalu am ein byd. Drwy gymryd rhan yn y sialens, bydd plant yn dysgu am fanteision darllen er pleser – nid yw erioed wedi bod yn bwysicach i bobl ifanc barhau â’u sgiliau darllen a’u hyder dros wyliau’r haf.”

I gael rhagor o wybodaeth am Sialens Ddarllen yr Haf a gwasanaethau llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin, ewch www.sirgar.llyw.cymru/llyfrgelloedd

%d bloggers like this: