04/24/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Yr Arglwydd Faer yn agor ysgol newydd i ddisgyblion diamddiffyn

MAE ysgol newydd sy’n cefnogi rhai o bobl ifanc fwyaf diamddiffyn Abertawe wedi cael ei hagor yn swyddogol gan Arglwydd Faer y ddinas.

Mae Maes Derw yn dod â gwasanaethau a oedd wedi’u gwasgaru dros bedwar lleoliad gwahanol ynghyd dan yr un to lle mae staff yn cefnogi disgyblion i aros yn yr ysgol neu ddychwelyd iddi yn eu cymunedau.

Ariannwyd y buddsoddiad o £9.64m ar y cyd gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru dan raglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif.

Oherwydd y cyfyngiadau cyfredol, ymwelodd Arglwydd Faer Abertawe, Mark Child, â’r ysgol ar gyfer y seremoni drwy gadw pellter cymdeithasol unwaith yr oedd y disgyblion wedi mynd adref am y dydd.

Dywedodd Cynghorydd Child:

“Mae’n anrhydedd i mi gael fy ngwahodd i agor yn swyddogol ysgol newydd mor bwysig a fydd yn cefnogi rhai o bobl ifanc fwyaf diamddiffyn Abertawe.

“Mae’r adeilad yn edrych yn wych ond yr hyn sydd wedi fy nharo yw sut y gellir cynnig cwricwlwm llawer ehangach yn awr i’r disgyblion, ochr yn ochr â hyfforddiant galwedigaethol, gan roi llawer mwy o gyfleoedd iddynt.”

Roedd Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart ac Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, Jennifer Raynor wedi ymuno ag ef.

Meddai’r Cyng. Raynor:

“Yn ogystal â darparu cartref newydd i’r Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD), y tîm Tiwtora Gartref a’r tîm Cefnogi Ymddygiad, mae hefyd yn cynnwys Tŷ Hanner Ffordd newydd.

“Mae dod â’r gwasanaethau hyn ynghyd o dan yr un to wedi trawsnewid y gefnogaeth y mae’r cyngor yn ei darparu i ddisgyblion sydd naill ai’r tu allan i addysg brif ffrwd neu mewn perygl o’i gadael.

“Mae gan lawer o’r disgyblion anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol cymhleth sydd, os nad eir i’r afael â hwy’n llawn, yn lleihau eu cyfleoedd o gael swydd yn y dyfodol ac yn effeithio ar eu lles.”

Mae disgyblion wedi cael eu symud o’u lleoliad blaenorol i Faes Derw’n raddol yn ystod y ddeufis diwethaf.

Dywedodd Cyng. Stewart:

“Mae Maes Derw yn rhan o fuddsoddiad gwerth £150m mewn adeiladau ysgol newydd a gwell yn Abertawe sy’n golygu bod miloedd o blant yn cael eu haddysgu yn yr amgylchoedd gorau posib, gan roi pob cyfle iddynt gyrraedd eu potensial llawn.

“Dyma’r buddsoddiad mwyaf a welwyd erioed yn ein hysgolion yn Abertawe a byddwn yn cyhoeddi prosiectau pellach fel rhan o’r rhaglen hon yn ystod y flwyddyn i ddod.”

Adeiladwyd yr ysgol gan Kier Construction a fu’n gweithio’n ddiogel drwy bandemig Coronafeirws i gwblhau’r datblygiad.

Meddai Jason Taylor, Cyfarwyddwr Gweithrediadau ar gyfer Kier Regional Building Western & Wales:

“Mae cydweithio wedi bod wrth wraidd y prosiect hwn a thros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi gweithio’n agos gyda Chyngor Abertawe, Llywodraeth Cymru a phennaeth yr ysgol i godi adeilad pwrpasol sy’n diwallu anghenion ei ddisgyblion.

“Mae Maes Derw yn cynnig cyfleusterau modern o’r radd flaenaf gydag ystafelloedd dosbarth ar gyfer grwpiau mawr a bach, yn ogystal â lleoedd ar gyfer gweithgareddau fel dylunio a thechnoleg bwyd. Er mwyn cynorthwyo lles meddwl y myfyrwyr, mae ffenestri mawr yn yr adeilad i dynnu sylw at ei amgylchoedd, gan gynnwys coed a chaeau.”

%d bloggers like this: