04/16/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Yr Hwb Penparcau pencampwyr Bwgan Brain Cymru 2020

YN dilyn cystadlu brwd o bob cwr o Gymru mae Bwgan Brain Yr Hwb Penparcau wedi dod i’r brig gan ennill teitl Pencampwr Bwgan Brain Cymru 2020.

Enillodd Fforwm Cymunedol Penparcau rownd sirol Brwydr y Bwgan Brain a drefnwyd gan CERED cyn mynd yn eu blaen i gystadlu yn rownd genedlaethol y gystadleuaeth. Y cyflwynydd radio a theledu Ifan Jones Evans oedd yn beirniadu’r rownd genedlaethol.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth genedlaethol gan y Mentrau Iaith eleni i wobrwyo bwganod brain oedd yn cyfleu Cymru a Chymreictod.

Trefnwyd y gystadleuaeth hon eleni gan Fentrau Iaith ar draws Cymru gyfan a hynny oherwydd bod nifer o sioeau bach lleol wedi eu canslo. Yn aml iawn mae creu Bwgan Brain yn gystadleuaeth boblogaidd yn y sioeau hynny. Anogwyd cystadleuwyr i ailddefnyddio ac ailgylchu’r hyn oedd ganddynt yn eu tai neu eu siediau eisoes a bod mor greadigol â phosibl gan greu Bwgan ar y thema Cymru neu Gymreictod. Yn ogystal â theitl Pencampwr Brwydr y Bwgan Brain mae’r Hwb yn derbyn gwobr arbennig sef darlun unigryw a lliwgar o waith yr artist Rhys Padarn Jones.

Roedd Bwgan yr Hwb yn seiliedig ar ddau blentyn mewn gwisg Gymreig gyda geiriau enwog Cymdeithas Bêl-droed Cymru – ‘Gyda’n Gilydd yn Gryfach’ yn gefndir i’r gwaith.

Dywedodd Clare Jackson, Swyddog Sgyrsiau Lleol y Fforwm:

“Roeddem yn credu y byddai creu Bwgan Brain yn gyfraniad rhagorol i ardd gymunedol newydd a gardd wenyn Yr Hwb a hwyluswyd gan Brosiect Plannu Penparcau. Rydyn ni bob amser yn edrych ar ffyrdd o gefnogi’r Gymraeg yn Yr Hwb ac felly roedd hwn yn gyfle gwych hefyd i wneud hynny a dod â gwên i wynebau trigolion y pentref trwy greu’r Bwgan Brain. Mae plant yn ein hysbrydoli ni gyda gobaith a hapusrwydd. Maent hefyd yn gallu cofleidio newid ac arddangos tosturi mewn ffordd rydyn ni’n ei cholli weithiau pan rydyn ni’n dod yn oedolion a dyna pam mai nhw oedd yr ysbrydoliaeth.”

Dywedodd Non Davies, Rheolwr Cered, (Menter Iaith Ceredigion):

“Mae staff CERED wedi bod yn gweithio’n agos gyda chriw cymunedol Hwb Penparcau dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn hynod falch felly o’u llwyddiant. Bwriad y gystadleuaeth oedd rhoi cyfle i unigolion, teuluoedd a grwpiau cymunedol i weithio gyda’i gilydd a chreu rhywbeth a fyddai’n codi calon cymunedau ar draws Cymru – mae ymdrech Yr Hwb yn sicr wedi llwyddo i wneud hynny.”

%d bloggers like this: