03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Yr Wythnos Daenellu Genedlaethol 2019

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cefnogi ymgyrch Wythnos Daenellu Genedlaethol Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân eleni.

Cynhelir yr ymgyrch o ddydd Sul 19 Mai i ddydd Gwener 24 Mai. Aeth Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân a’r Rhwydwaith Taenellwyr Tân Cenedlaethol ati i wneud gwaith ymchwil i archwilio effeithiolrwydd a dibynadwyedd systemau taenellu. Gwelwyd bod systemau taenellu yn gweithredu ar 94% o achlysuron gan ddangos dibynadwyedd uchel iawn.

Yn ogystal, mae’n amlwg pan fyddant yn gweithredu eu bod yn diffodd neu’n ymatal y tân ar 99% o achosion, a’u bod felly’n effeithiol iawn. Dangosodd y dystiolaeth hefyd, mewn fflatiau sydd wedi’u haddasu a fflatiau sydd wedi’u hadeiladu’n benodol, fod taenellwyr 100% yn effeithiol o ran rheoli tanau. Mae yna amrywiaeth mewn rheoliadau adeiladu o ran darparu taenellwyr yn y Deyrnas Unedig. Mae’r cyfreithiau o ran taenellwyr yng Nghymru a’r Alban yn fwy llym nag y maent yn Lloegr, sy’n golygu bod eu cymunedau wedi eu diogelu’n well rhag tân.

Dywedodd y Rheolwr Grŵp, David Hancock, Pennaeth Diogelwch Tân Busnesau ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, “Mae’r dystiolaeth yn dweud y cyfan, mae gwaith ymchwil yn profi bod taenellwyr yn effeithiol iawn ac yn darparu diogelwch cryf rhag tân fel rhan o becyn diogelwch rhag tân.”

Dywedodd Rheolwr Diogelwch yn y Cartref, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Will Bowen, “Bydd y ddeddfwriaeth sy’n gosod gofyniad i osod taenellwyr ym mhob cartref newydd sy’n cael ei adeiladu yng Nghymru yn arwain at lai o farwolaethau ac anafiadau oherwydd tân ledled y wlad.”

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ynghyd â Chyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân yn gofyn i bobl gefnogi’r ymgyrch trwy ddilyn yr hashnod #RhowchYstyriaethIDaenellwyr  ar y cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o daenellwyr.

Mae hon yn ymgyrch amlwladol ac mae hefyd yn cael ei chefnogi yn America, Canada ac Awstralia.

%d bloggers like this: