04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ysgol Gyfun Sant Cyres yw Ysgol Noddfa gyntaf Bro Morgannwg

MAE’R rhwydwaith Ysgolion Noddfa yn grŵp o fwy na 300 o ysgolion cynradd ac uwchradd sydd wedi ymrwymo i gefnogi’r miloedd o bobl ifanc sy’n ceisio noddfa yn y DU.

Eu nod yw creu diwylliant o groeso a chynhwysiant tra’n codi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n wynebu ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

St Cyres yw’r ysgol gyntaf yn y Fro i dderbyn y gydnabyddiaeth, a enillir drwy gadw at Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a chyflawni ystod o feini prawf eraill.

Mae’r gymdeithas ehangach hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith hwn ac mae sawl sefydliad lleol wedi datblygu eu llwybrau ailsefydlu eu hunain a arweinir gan y gymuned ar gyfer teuluoedd sy’n agored i niwed.

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn falch iawn o’i waith dyngarol ac mae wedi ymrwymo i ddarparu noddfa i bobl sy’n gadael yr argyfwng yn Affganistan yn ddiweddar.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Dywedodd y Gweinidog Dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:

“Nid Llywodraeth Cymru yn unig sy’n berchen ar ein gweledigaeth o  Gymru’n tyfu’n Genedl Noddfa. Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth groesawu’r rhai sy’n ceisio noddfa yma, mae St Cyres wedi dangos hyn drwy fod yr ysgol gyntaf ym Mro Morgannwg i ennill statws Ysgol Noddfa.

“Llongyfarchiadau, i’r holl ddisgyblion a staff fu’n rhan o hyn, cafodd eich cais ei ganmol yn fawr gan y mudiad Dinas Noddfa am ei agwedd groesawgar a chynnes naturiol sy’n wirioneddol gynhwysol o ran ysbryd a chalon, mae hyn yn ymgorffori’r hyn a welwn fel hanfod Cenedl Noddfa yng Nghymru. Rwy’n annog pob ysgol i ystyried gwneud cais i fod yn rhan o’r mudiad hwn.”

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg, y Cyng. Lis Burnett:

“Rwy’n falch mai Sant Cyres yw’r ysgol gyntaf yn y Fro i ennill statws Ysgol Noddfa.

“Mae hynny’n dyst i’r amgylchedd cynnes o oddefgarwch a derbyn sydd bob amser wedi bod yn rhan sylfaenol o ddiwylliant yr ysgol.

“Mae’r gwerthoedd hyn hefyd yn ganolog i ethos Cyngor Bro Morgannwg ac rwy’n gobeithio y bydd mwy o’n hysgolion yn ymuno â’r rhwydwaith hwn yn y dyfodol agos.”

Yr anrhydedd hwn yw’r enghraifft ddiweddaraf o ymdrechion i gefnogi grwpiau agored i niwed sydd wedi digwydd yn y Fro.

Ers 2016, mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu cyfleoedd ailsefydlu i 18 o deuluoedd sy’n ffoaduriaid o dan hen Gynllun Ailsefydlu Pobl Agored i Niwed (VPRS) ac o dan Gynllun Ailsefydlu presennol y DU (UKRS).

Mae’r Awdurdod wedi gweithio gyda phartneriaid lleol a rhanbarthol i estyn croeso cynnes a sicrhau eu bod yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnynt i ailadeiladu eu bywydau mewn diogelwch a chael eu hintegreiddio’n llawn i’n cymunedau.

 

 

%d bloggers like this: