04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

MAE cabinet Cyngor Bro Morgannwg wedi cytuno cynlluniau i adeiladu ysgol gynradd newydd gwerth £5.4 miliwn ae safle Ysgol Gyfun y Bont-faen

Yn agor ym mis Medi 2022, bydd yr adeilad newydd yn darparu ar gyfer 210 o ddisgyblion cynradd ac yn creu 48 o leoedd meithrin rhan-amser. Bydd hefyd yn creu ysgol ‘pob oed’ ar gyfer y Bont-faen, gan gefnogi plant rhwng tair a 19 oed.

Mae adeilad yr ysgol yn cynnwys ystafelloedd dosbarth, prif neuadd ar gyfer chwaraeon a bwyta, swyddfeydd ar gyfer uwch staff a gweinyddwyr, ystafell staff ac ardaloedd egwyl. O fewn y tiroedd mae cynlluniau hefyd ar gyfer mannau chwarae allanol, ardal gemau aml-ddefnydd (AGADd) ac ardaloedd bywyd gwyllt.

Bydd yr ysgol yn cael ei chynllunio i fod yn garbon sero-net, gan gefnogi nod y Cyngor i gyflawni hynny fel sefydliad erbyn 2030.

Mae yr holl gyllid yn cael ei ddarparu gan y Cyngor, yn bennaf drwy gyfraniadau Adran 106 a sicrhawyd o ddatblygiadau lleol ar gyfer cyfleusterau addysgol.

%d bloggers like this: