04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ysgol Gynradd Trwyn y De yn ennill gwobr gynllunio

MAE prosiect Ysgol Gynradd Trwyn y De Cyngor Bro Morgannwg wedi cipio Gwobr Rhagoriaeth Cynllunio Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol Cymru.

Wedi’i gyhoeddi mewn seremoni yng Nghaerdydd, fe dderbyniodd y Cyngor yr anrhydedd ar ôl cyflwyno’r ysgol garbon sero net gyntaf yng Nghymru.

Cwblhawyd gwaith ar brosiect Ysgol Gynradd Trwyn y De, oedd yn werth £5.4 miliwn, ym mis Chwefror a dechreuodd yr addysgu yn y cyfleuster tra chyfoes yn fuan wedyn.

Mae’r gwobrau’n dathlu cynlluniau, prosiectau a phobl rhagorol sy’n dangos pŵer cynllunio.

Maen nhw’n tynnu sylw at enghreifftiau eithriadol o sut mae cynllunio a chynllunwyr yn cael effaith gadarnhaol ar ansawdd ein bywyd wrth greu lleoedd eithriadol a gwarchod yr amgylchedd.

Dywedodd y panel beirniadu:

“Enghraifft ardderchog o weithio mewn partneriaeth, gyda chynllunio’n chwarae rôl hanfodol o’r cychwyn cyntaf i’r diwedd.  Aeth dyluniad y project y tu hwnt i’r gofynion Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, gyda mynediad drwy deithio llesol ac ardal SDCau a bioamrywiaeth wedi’u hymgorffori yn y safle. Mae’r Tîm hefyd yn parhau i ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd o’r prosiect i lywio cynlluniau pellach.”

Meddai y Cynghorydd Ruba Sivagnanam, Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Ymgysylltu â’r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoliadol:

“Rwy’n falch iawn bod y Cyngor wedi cael ei gydnabod fel hyn a hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r gwaith caled i gyflawni’r prosiect arloesol hwn.

“Yn benodol, hoffwn gydnabod staff ein Tîm Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, sydd wedi chwarae rhan mor allweddol yn y cynllun hwn.

“Fe wnaeth staff cynllunio hefyd gyfraniad pwysig i leoliad, dyluniad, a chyflawni’r prosiect, gan sicrhau bod y cynllun wedi arwain at fath cynaliadwy o ddatblygiad ar gyfer heddiw a chenedlaethau’r dyfodol i ddod.

“Bydd yr adeilad ysgol newydd hwn yn cynnig amgylchedd addysgu a dysgu modern i staff a disgyblion yn ogystal ag amrywiaeth o gyfleusterau ar gyfer y gymuned leol.

“Ar ôl datgan argyfwng hinsawdd, mae’r Cyngor wedi lansio ei fenter Prosiect Sero, sydd â’r nod o wneud y sefydliad yn garbon niwtral erbyn 2030. “Mae creu ysgolion fel hyn sy’n hynod ecogyfeillgar yn rhan allweddol o’r addewid hwnnw.

“Mae hwn yn brosiect pwysig yn ein rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, cynllun gwella hirdymor, a ddarperir mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, a fydd yn gweld £135 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf ac amgylcheddau dysgu cwbl fodern.”

Mae ei ddyluniad chwyldroadol yn golygu y bydd allyriadau nwyon tŷ gwydr yn cael eu lleihau’n fawr ac y bydd unrhyw allyriadau sy’n weddill yn cael eu gwrthbwyso, gan niwtraleiddio effaith amgylcheddol yr ysgol. Mae’r adeilad wedi’i gynllunio i gyflawni carbon sero-net drwy ffabrig adeiladu gwell, gwneud y mwyaf o ynni solar, mwy o baneli ffotofoltäig gyda batris storio a phwmp gwres ffynhonnell aer.

Mae lle awyr agored sylweddol ar gyfer gweithgareddau chwarae a chwaraeon a storfa ar gyfer beiciau a sgwteri i helpu i hyrwyddo teithio llesol.

Yn ogystal mae gan yr ysgol bwyntiau gwefru cerbydau trydan, ardaloedd cynefin gwyrdd sy’n cynnwys blodau a choed ar y safle i wella’r ecoleg, a maes chwarae ac ardal gemau aml-ddefnydd.

Dechreuodd y contractwyr, ISG Construction, weithio ar yr ysgol, sydd â lle i 210 o ddisgyblion a 48 o leoedd meithrin rhan-amser, ym mis Ionawr y llynedd.

Bydd yr addysgu’n cael ei gynnal mewn ystafelloedd dosbarth ar ddau lawr, ac mae’r dyluniad hefyd yn cynnwys prif neuadd ar gyfer chwaraeon a bwyta, swyddfeydd, ystafell staff ac ardaloedd seibiant.

Mae’r datblygiad yn ganlyniad i ymdrech gydweithredol a oedd yn cynnwys y sector preifat a’r sector cyhoeddus a lle bu’r Cyngor yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, Taylor Wimpey, Aecom, ISG, Stride Treglown a McCanns & Partners.

 

%d bloggers like this: