04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ysgol Maes Derw Abertawe barod i groesawu disgyblion

CAIFF rhagor o ddisgyblion eu cefnogi i aros mewn ysgolion o fewn eu cymunedau neu ddychwelyd iddynt, diolch i fuddsoddiad enfawr mewn darpariaeth arbenigol ar gyfer rhai o bobl ifanc mwyaf diamddiffyn Abertawe.

Mae Cyngor Abertawe’n trawsnewid y gefnogaeth mae’n ei darparu i ddisgyblion naill ai y tu allan i addysg brif ffrwd neu sydd mewn perygl o’i gadael.

Caiff gwasanaethau sydd ar hyn o bryd wedi’u gwasgaru ar draws pedwar lleoliad gwahanol yn y ddinas eu huno dan yr un to yn natblygiad newydd Maes Derw sy’n werth £9.64 miliwn yn y Cocyd sydd ar fin agor ei ddrysau.

Yn ogystal â darparu cartref newydd i’r Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD), y tîm Tiwtora Gartref a’r tîm Cefnogi Ymddygiad, mae hefyd yn cynnwys Tŷ Hanner Ffordd newydd.

Mae contractwyr wedi gweithio’n ddiogel yn ystod pandemig Coronafeirws i gwblhau’r datblygiad a fydd, yn ôl y pennaeth Amanda Taylor, hefyd yn galluogi’r UCD i gynnig cwricwlwm ehangach a darparu rhagor o gyfleoedd sy’n seiliedig ar anogaeth ar gyfer disgyblion o bob oedran.

Ers ei sefydlu, mae Ms Taylor a’i thîm, ar y cyd â phobl ifanc sy’n defnyddio’r gwasanaeth, wedi bod yn rhan o’r broses gynllunio ac roedd disgyblion hyd yn oed wedi cynnig yr enw Maes Derw.

Meddai Ms Taylor,

“Mae ein disgyblion wedi bod yn rhan fawr o’r holl benderfyniadau sy’n cael eu gwneud ar gyfer eu hysgol newydd, a phan ofynnwyd iddynt am eu barn, mae llawer ohonynt wedi dangos diddordeb, wedi bod yn agored ac wedi meddwl am syniadau gwych

“Mae’r ysgol rydw i wedi breuddwydio amdani ar gyfer ein disgyblion bron yn barod ac rwy’n ddiolchgar iawn ac yn falch iawn o bawb sydd wedi bod yn rhan ohoni.”

Ariannwyd y buddsoddiad ar y cyd gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru trwy raglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain ganrif, sef y buddsoddiad mwyaf erioed mewn isadeiledd ysgol yn Abertawe.

%d bloggers like this: