09/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ysgol Ynyswen yn nodi Awr Ddaear trwy greu gwaith celf yn Nhreorci

CAFODD wal ochr tafarn y Lion yng nghanol tref Treorci wedi ei gweddnewid fel rhan o brosiect barddoniaeth a chelfyddyd stryd ar thema’r hinsawdd a natur yn y cyfnod cyn Awr Ddaear.

Mae’r elusen amgylcheddol, WWF Cymru, a’r cwmni cenedlaethol ar gyfer datblygu llenyddiaeth, Llenyddiaeth Cymru, wedi bod yn gweithio gyda disgyblion blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen i ysgrifennu cerdd sydd wedi cael ei throi’n waith celf cyhoeddus gan yr artist stryd Bryce Davies o Peaceful Progress. Cafodd y gweithdai barddoniaeth eu hwyluso gan Bardd Plant Cymru, Gruffudd Owen.

Mae’r darn trawiadol sy’n darlunio natur leol yn ogystal â draig Gymreig ffyrnig, yn rhan o brosiect Awr Ddaear i Gymru gyfan sy’n gweithio gydag ysgolion a chymunedau yn y Rhyl, Sir Ddinbych ac Aberteifi, Ceredigion, yn ogystal â Threorci yng Nghwm Rhondda. Mae’r tair cerdd sydd wedi cael eu creu i gyd yn unigryw ac yn adlewyrchu’r ardal leol a dymuniadau’r plant ar gyfer dyfodol natur Cymru a mynd i’r afael â newid hinsawdd.

Dywedodd y Cyng. Rhys Lewis, Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol:

“Mae Gwasanaeth Celfyddydau a swyddogion Ffyniant a Datblygu Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi bod yn cefnogi’r prosiect ardderchog hwn. Mae hyn wedi cynnig ffordd greadigol i’n disgyblion ymgysylltu â newid hinsawdd a chodi ymwybyddiaeth o Awr Ddaear. Mae’n wych bod cyfle i weithio gyda Bardd Plant Cymru wedi bod yn bosibl yn ystod cyfnod heriol i’n plant a’n hysgolion. Bydd yn gyffrous iddyn nhw weld eu gwaith yn cael ei ddarlunio mewn murlun yn eu tref leol a bydd yn ychwanegu at fywiogrwydd a natur unigryw Treorci, a gafodd ei dewis yn Stryd Fawr Orau Prydain yn 2019.”

Meddai Rhian Brewster o WWF Cymru:

“Mae Awr Ddaear yn foment pan mae miliynau o bobl o gwmpas y byd yn dod ynghyd dros natur a phobl, i alw am newid. Roeddem ni eisiau achub ar y cyfle hwn i roi llais i’r plant, cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru, i ofyn iddyn nhw beth roedden nhw eisiau ei weld. Nid yn unig y bydd eu geiriau’n cael eu hanfarwoli fel murlun hardd yn eu tref leol, byddan nhw hefyd yn cael eu cyfleu i arweinwyr y byd wrth iddyn nhw benderfynu ar y camau nesaf at weithredu ar newid hinsawdd, yng Nghynhadledd COP26 yn Glasgow yn ddiweddarach eleni.

Hoffem ddiolch i ddisgyblion ac athrawon Ysgol Ynyswen am fod yn rhan o’r prosiect cyffrous hwn, yn ogystal ag Adrian Emmett o dafarn y Lion a Chyngor Rhondda Cynon Taf am ei gefnogaeth barhaus wrth sicrhau ei lwyddiant.”

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru:

“Mae ysbrydoli cymunedau, datblygu awduron a dathlu diwylliant llenyddol Cymru yn ganolog i’n gwaith, a bu’n bleser mawr bod yn rhan o’r cydweithrediad hwn trwy ein prosiect Bardd Plant Cymru. Mae prosiectau ysgrifennu creadigol a barddoniaeth fel hwn yn grymuso ein plant i fynegi eu hunain ac i gael hwyl gyda geiriau, a all gael effaith mor gadarnhaol ar eu llesiant.”

Dywedodd Bethan Ford, Dirprwy Bennaeth ac athrawes Blwyddyn 6 yn Ysgol Ynyswen:

“Roedd yn brofiad mor gofiadwy i’r disgyblion fod yn rhan o weithdai a chyfansoddi cerdd am yr ardal gyda Gruffudd Owen. Roedden nhw wrth eu bodd i gael cyfle i fod yn rhan o’r prosiect cymunedol hwn.”

Medd Ffion, un o ddisgyblion Ysgol Ynyswen:

“Wnes i fwynhau’r profiad cymaint! Dysgais i eiriau newydd sy’n unigryw i’r cwm, a hefyd fe wnaeth imi sylweddoli bod Cwm Rhondda yn lle mor hard i fyw, yn llawn hanes a chymeriad. Rwy’n edrych ymlaen at weld y murlun gorffenedig cyn bo hir!”

Dywedodd Adrian Emmett o dafarn y Lion, Treorci:

“Fel un o gyn-ddisgyblion Ysgol Ynyswen, neidiais i at y cyfle i gymryd rhan yn y prosiect yma. Mae’r murlun yn edrych yn anhygoel a bydd yn nodwedd amlwg yn y dref, sy’n rhoi ymdeimlad go iawn o falchder a pherthyn. Dyma enghraifft wych arall o’r ffordd y gall cydweithio a meithrin partneriaethau fod o fudd i’r gymuned gyfan. Mae Stryd Fawr Treorci yn cynnig mwy na dim ond siopau, mae’n cynnig profiadau, a bydd y murlun hwn yn dod ag elfen drawiadol iawn i’r dref.”

Mae 2021 yn ddechrau degawd pwysig ar gyfer gweithredu dros yr hinsawdd a natur. Eleni, bydd arweinwyr y byd yn gwneud penderfyniadau a fydd yn effeithio ar ein dyfodol yn yr uwchgynhadledd COP26 yn Glasgow ym mis Tachwedd.

%d bloggers like this: