04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ysgolion Merthyr yn fodelau ar gyfer dysgu o bell

MAE medrusrwydd dwy ysgol gynradd ym Merthyr Tudful wrth ddysgu ar-lein wedi ennill cydnabyddiaeth ledled De Cymru.

Cafodd Ysgolion Cynradd Gwaunfarren a Phantyscallog eu gwahodd gan Gonsortiwm Canolbarth y De – gwasanaeth addysg ar y cyd ar gyfer y pum awdurdod lleol sef Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont, Caerdydd a Bro Morgannwg i wneud cyflwyniad ar eu profiadau mewn webinarau ar ‘Ddysgu Cyfunol o Bell.’

Er mwyn gweld cyflwyniadau’r ysgol, ewch i https://youtu.be/atQRJtCSKC8 a https://youtu.be/ivcKaif1n4Y

“Cawsom gyfle i rannu’r hyn yr ydym wedi ei ddysgu am ddysgu o bell o ddechrau’r cyfnod clo ym Mawrth 2020 hyd heddiw, sydd bron iawn flwyddyn yn ôl!” meddai Louise Bibby, Pennaeth Gwaunfarren.

“Mae’n Arweinydd TGaCh, Miss Louise Evans wedi gweithio mor galed i ddatblygu dysgu digidol yn Ysgol Gynradd Gwaunfarren ac wedi gwneud hynny’n gyflym ac yn effeithiol!”

Dywedodd Pennaeth Pantyscallog, Darren Thomas fod cyflwyniad yr ysgol wedi cynnwys manylion ar sut lwyddodd yr athrawon i gael y disgyblion i ymgysylltu, sut y mae dysgu o bell wedi esblygu a sut y defnyddiwyd yr heriau i ysgogi’r plant.

“Un o’r pethau mwyaf cyffrous yr ydym wedi ei wneud yw cyflwyno ci llesiant o’r enw Max y Cavapoo i’r ysgol. Mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac wedi cael effaith gadarnhaol ar bontio’r disgyblion yn ôl i’r ysgol,” ychwanegodd Mr Thomas.

“Ers y cyflwyniad, mae nifer o ysgolion wedi cysylltu â ni am gymorth, gan gynnwys ysgolion mewn awdurdodau eraill. Paratowyd a chyflwynwyd y cyflwyniad gennyf i, Mr Craig Lynch, fy Nirprwy a Mrs Hannah Trinder, y Pennaeth Cynorthwyol.”

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Mytton, Arweinydd y Cyngor ac Aelod o’r Cabinet ar gyfer Dysgu: “Cafodd pob un o’n hysgolion a’n disgyblion eu taflu i’r dwfn pan ddechreuodd y cyfnod clo ac roedd rhaid iddynt ddysgu o’r newydd sut i astudio o’r cartref.

“Rydym yn hynod falch o’r modd y maent wedi ymateb ac wedi gwneud llwyddiant ohoni, yn enwedig Ysgolion Cynradd Gwaunfarren a Phantyscallog sydd yn enghreifftiau gwych o ymarfer da ledled y rhanbarth. Rydym yn falch o’u cyflawniadau.”

 

%d bloggers like this: