04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ystyried cais cynllunio ar gyfer ysgol arbennig newydd

BYDD cais cynllunio i adeiladu adeilad ysgol arbennig newydd yng ngogledd Powys yn cael ei drafod gan y Pwyllgor Cynllunio, Trwyddedu Tacsis a Hawliau Tramwy, ddydd Iau 3 Chwefror.

Mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu adeiladu ysgol newydd gwerth £20m ar gyfer Ysgol Cedewain yn Y Drenewydd.

Bydd y cais cynllunio’n cael ei drafod fel rhan o’r datblygiad, bydd gan Ysgol newydd Cedewain gyfleusterau pwrpasol o’r radd flaenaf gan gynnwys pwll hydrotherapi, ystafelloedd synhwyraidd a ffisiotherapi a gardd ynghyd â chaffi cymunedol.

Bydd yr ysgol newydd yn cael ei hariannu trwy Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru a fydd yn ariannu 75% o’r prosiect.  Y cyngor fydd yn ariannu’r 25% sy’n weddill.

Mae’r cynlluniau ar gyfer Ysgol Cedewain yn rhan o Raglen Drawsnewid y cyngor i wireddu dyheadau Gweledigaeth 2025 ynghyd â chyflwyno’r Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys 2020-2030.

Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo:

“Trwy ein cynlluniau uchelgeisiol i Ysgol Cedewain, byddwn yn gallu darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf i’n dysgwyr sydd fwyaf agored i niwed.

“Pan fydd yn barod, bydd yn darparu amgylchedd lle bydd staff addysgu’n gallu ffynnu a chynnig cyfleusterau sy’n ateb anghenion ein dysgwyr mwyaf bregus, lle byddan nhw’n gallu elwa a’u galluogi i fwynhau dysgu.”

%d bloggers like this: