04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

£4.25m i wella golwg trefi, cymoedd a phentrefi ledled Castell-nedd Port Talbot.

BYDD cyfanswm o £4.25m yn cael ei ryddhau i ‘lanhau a glasu’ trefi, cymoedd a phentrefi ledled Castell-nedd Port Talbot.

Fe wnaeth aelodau Cabinet clymbleidiol Cyngor Castell-nedd Port Talbot gymeradwy’r gwariant yn eu cyfarfod ar Orffennaf 28.

Yn gynt yn y mis, dywedodd Arweinydd newydd y cyngor, y Cynghorydd Stephen Hunt, y byddai gwella’r ‘parth cyhoeddus’ yng Nghastell-nedd Port Talbot yn un o flaenoriaethau cynnar arweinyddiaeth newydd y Glymblaid.

Meddai ef:

‘Mae preswylwyr eisiau gweld cymdogaethau diogel, glân a deniadol. Bydd y Glymblaid yn ymateb i hynny a byddwn ni’n gwneud darpariaeth yn fuan mewn cyllidebau cyfalaf a refeniw i wella ansawdd ein parth cyhoeddus, gan weithio gyda swyddogion i adolygu gwasanaethau a pholisïau.”

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru tua diwedd 2021/22 y byddai’n clustnodi cyllid cyfalaf ychwanegol o £3.5m, gan arwain at roi £2.75m i gyllido’r Rhaglen Briffyrdd a Pheirianneg.

Mae rhaglen gyfalaf y cyngor a gymeradwywyd hefyd yn cynnwys clustnodi £1.5m i gyllido prosiectau gyda’r nod o helpu’r Cyngor ar gyfer ‘Diweddaru, Glasu, Glanhau’ ar ôl pandemig Covid-19.

Ar y cyd, mae’r ddwy ffynhonnell arian hyn yn golygu fod £4.25m ar gael i gefnogi gwariant cyfalaf newydd, a bydd yr arian yn cael ei wario ar wella parthau cyhoeddus.

Yn ystod pandemig Covid, bu’n rhaid arallgyfeirio gweithlu’r cyngor i sicrhau fod gwasanaethau hanfodol fel casglu sbwriel ac ailgylchu’n cael eu cynnal. O ganlyniad, mae cyflwr y parth cyhoeddus ar draws y Fwrdeistref Sirol wedi dirywio.

Meddai Arweinydd y Cyngor Cyngh Hunt:

‘Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae’r Cabinet wedi cytuno i gynnal rhaglen fuddsoddi cyfalaf untro gan ddefnyddio’r £4.25m ar gyfer ystod o welliannau parth cyhoeddus ar draws y Fwrdeistref Sirol. Bydd ein swyddogion yn paratoi amserlen fanwl o welliannau nawr, i’w hystyried gan y Byrddau Cabinet perthnasol.”

Ychwanegodd Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Adfywio Economaidd a Chymunedol, y Cynghorydd Martyn Peters:

“Gwella sut roedd trefi a phentrefi ledled y Fwrdeistref Sirol yn edrych oedd beth ddywedodd pobl wrthym roedden nhw eisiau, wrth arwain at yr etholiad diwethaf.

“Nawr ein bod ni wedi ffurfio Clymblaid yr Enfys i redeg y Cyngor, rydyn ni’n gwneud hwnnw’n bwnc pennaf ein blaenoriaethau, a dyna pam rydyn ni wedi cymeradwy’r gwario ychwanegol hwn.”

%d bloggers like this: