04/27/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant

Mae noson focsio coler wen wedi codi £1,178.43 ar gyfer y Gwasanaethau Nyrsio Plant Cymunedol ar draws Hywel Dda.

Cynhaliwyd y digwyddiad, a drefnwyd gan Angelo Dragone, perchennog Stallion Boxing Gym, ar 13 Mai 2022, yng Nghanolfan Selwyn Samuel ac Ystafell Lliedi, Llanelli.

Mae’r Gwasanaethau Nyrsio Plant Cymunedol yn cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion iechyd hirdymor a thymor byr gyda’u hannibyniaeth ac yn helpu eu teuluoedd i ofalu amdanynt yn ddiogel gartref, gan leihau’r angen i gael eu derbyn i’r ysbyty.

Maent hefyd yn cefnogi ac yn hyfforddi staff ysgol a seibiant i alluogi plant a phobl ifanc i fynychu addysg i wneud y gorau o’u potensial bywyd, ac maent yn rhoi mynediad i ofal seibiant i deuluoedd.

Bydd yr arian a godir o’r digwyddiad hwn yn cefnogi’r nyrsys i gael deunyddiau hyfforddi a chynnal digwyddiadau er budd bywydau’r plant a’r bobl ifanc y mae’r gwasanaeth yn eu cefnogi.

Yn y llun uchod o’r chwith i’r dde: Nicola Thomas, Nyrs Plant Cymunedol; Angelo Dragone, perchennog Stallion Boxing Gym, a Claire Rumble, Swyddog Codi Arian.

Dywedodd Angelo Dragone, perchennog Stallion Boxing Gym: “Roeddwn yn hynod o hapus i godi arian ar gyfer y Gwasanaethau Nyrsio Plant Cymunedol. Mae Nicola, sy’n nyrs gymunedol i blant, yn hyfforddi yn y Stallion Boxing Gym ac mae wedi dweud llawer wrthyf am y gwasanaeth. Maent yn darparu llawer i blant llai ffodus.

“Diolch i bawb a fynychodd y noson ac a gyfrannodd at yr achos anhygoel hwn.”
Dywedodd Sara McDonnell, Arweinydd Tîm y Gwasanaethau Nyrsio Plant Cymunedol: “Diolch am wneud y rhodd garedig hon i’r Tîm Nyrsio Plant Cymunedol (CCN). Mae tîm CCN yn dîm bach o nyrsys sy’n gweithio ar draws tair sir Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sy’n cwmpasu Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae gennym nyrsys yn Llanelli, Caerfyrddin, Hwlffordd, Aberdaugleddau, Aberteifi ac Aberystwyth. Rydym yn gofalu am blant a phobl ifanc yn y gymuned.
“Gall hyn fod yn blant ag angen iechyd tymor byr ond yn bennaf yn blant a phobl ifanc ag anghenion iechyd cymhleth hirdymor. Rydym yn cefnogi’r plentyn drwy hybu ei annibyniaeth a grymuso ei deulu i ofalu amdano’n ddiogel gartref, gan leihau’r angen i gael ei dderbyn i’r ysbyty. Rydym yn cefnogi ac yn hyfforddi staff ysgol a seibiant i alluogi’r plentyn a’r person ifanc i fynychu addysg i wneud y gorau o’u potensial bywyd a galluogi teuluoedd i gael mynediad at ofal seibiant.
“Bydd y rhodd wych a godwyd o’r digwyddiad hwn yn ein cefnogi i gael deunyddiau hyfforddi a chynnal digwyddiadau er budd bywydau’r plant a’r bobl ifanc rydym yn eu cefnogi. Diolch eto am ein cefnogi.”

%d bloggers like this: