The Chair of Carmarthenshire County Council has written to the Royal Family expressing the county’s great sadness following the death of Her Majesty The Queen.
Cllr Rob Evans has expressed deepest sympathies on behalf of members, staff and residents following yesterday’s announcement from Buckingham Palace.
Flags have been lowered to half-mast at Carmarthen’s County Hall, Llanelli Town Hall and Ammanford Town Hall as a mark of respect. Blue flags at Cefn Sidan Beach and Pendine Beach have also been lowered.
Books of Condolence will be opened at County Hall, Carmarthen; Llanelli Town Hall and the HWB, Ammanford on Monday, September 12. They will be open from 9am-5pm Monday to Thursday, and 9am-4.30pm on Friday, and will remain open until the day following the funeral.
Members of the public are invited to leave a message of condolence, or to visit the national e-Book of Condolence on the Buckingham Palace website.
In line with national events, a Proclamation of the new Sovereign will be read by the Chair of Carmarthenshire County Council, Cllr Rob Evans on the steps of County Hall, Carmarthen, date to be confirmed.
Further information about events will be shared on the council’s website carmarthenshire.gov.wales and social media feeds.
HM The Queen’s last visit to Carmarthenshire was in June 2002 as part of her Diamond Jubilee tour of the UK.
Accompanied by HRH Duke of Edinburgh, she visited Burry Port Harbour to open a new lock and meet RNLI volunteers at the lifeboat station, then drove along the Millennium Coastal Path to the beach promenade in Llanelli where she officially opened the new Millennium Coastal Park. Following lunch, the couple visited a Carmarthenshire Trade Fair at Llanelli’s North Dock.
Mae Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ysgrifennu at y Teulu Brenhinol yn mynegi tristwch mawr y sir wedi marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines.
Mae’r Cynghorydd Rob Evans wedi cydymdeimlo’n ddwys ar ran aelodau, staff a thrigolion yn dilyn y cyhoeddiad ddoe o Balas Buckingham.
Fel arwydd o barch, mae baneri wedi cael eu gostwng i hanner mast yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin; Neuadd y Dref, Llanelli a Neuadd y Dref, Rhydaman. Mae baneri glas hefyd wedi cael eu gostwng ar Draeth Cefn Sidan a Thraeth Pentywyn.
Bydd Llyfrau Cydymdeimlo ar gael yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin; Neuadd y Dref, Llanelli a’r HWB yn Rhydaman o ddydd Llun, 12 Medi. Bydd modd ysgrifennu ynddynt rhwng 9am-5pm o ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 9am-4.30pm ddydd Gwener, a gellir gwneud hynny hyd at y diwrnod wedi’r angladd.
Mae croeso i aelodau o’r cyhoedd adael neges o gydymdeimlad, neu adael neges yn yr e-Lyfr Cydymdeimlo cenedlaethol ar wefan Palas Buckingham.
Yn unol â digwyddiadau cenedlaethol, caiff Proclamasiwn ar gyfer y Brenin newydd ei ddarllen gan y Cynghorydd Rob Evans ar risiau Neuadd y Sir, Caerfyrddin, dyddiad i’w gadarnhau.
Caiff gwybodaeth bellach am ddigwyddiadau ei rhannu ar wefan y Cyngor sirgar.llyw.cymru ac ar ffrydiau cyfryngau cymdeithasol.
Mehefin 2002 oedd y tro diwethaf i’r Frenhines ymweld â Sir Gaerfyrddin a hynny fel rhan o’i thaith Jiwbilî Diemwnt o amgylch y DU.
Yng nghwmni Dug Caeredin, bu’r Frenhines yn ymweld â Harbwr Porth Tywyn i agor llifddor newydd a chwrdd â gwirfoddolwyr RNLI yng ngorsaf y bad achub. Wedi hynny, gyrrodd ar hyd Parc Arfordirol y Mileniwm i bromenâd y traeth yn Llanelli lle agorodd Barc Arfordirol newydd y Mileniwm yn swyddogol. Ar ôl cinio, aeth y ddau i ymweld â Ffair Fasnach Sir Gaerfyrddin yn Noc y Gogledd, Llanelli.
More Stories
Statement from Joyce Watson MS on the death of Her Majesty Queen Elizabeth
Former council leader shares amusing Queen anecdote
Floral Tributes for the Queen at Penmorfa, Aberaeron