04/27/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

GALLWCH bellach gofrestru ar gyfer dwsinau o gyrsiau am ddim a gynhelir yn nhymor yr haf gan Wasanaeth Dysgu Gydol Oes Cyngor Abertawe.

Mae’r amrywiaeth eang o feysydd pwnc i ddewis ohonynt yn cynnwys Celf, Caligraffeg, Ioga, TG, Sgiliau Hanfodol, Dysgu fel Teulu, Cerddoriaeth, Ffotograffiaeth Ddigidol, Coginio, Blodeuwriaeth, Crefft Nodwyddau a mwy.

Mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu dosbarthiadau sgiliau hanfodol mewn llythrennedd, rhifedd a chyflogadwyedd, gan gefnogi dysgwyr drwy amrywiaeth o weithgareddau ar-lein ac all-lein.

Ewch i www.abertawe.gov.uk/dysgugydoloes i weld yr opsiynau sydd ar gael gyda chyrsiau’n dechrau o 26 Ebrill.

Unwaith eto, o ganlyniad i gyfyngiadau presennol cynhelir y cyrsiau hyn ar-lein ond ni wnaeth hynny effeithio ar fwynhad dysgwyr yn ystod y tymor diwethaf.

Gall y rheini y mae angen cymorth arnynt i gefnogi ffrindiau neu berthnasau i fynd ar-lein lenwi’r ffurflen yn www.abertawe.gov.uk/getonline neu ffonio 01792 637101 rhwng 9.30am a 4.00pm yn ystod yr wythnos i ofyn am alwad yn ôl.

Cofrestrodd bron i 900 o bobl yn ystod tymor y gwanwyn a dywedodd bron i ddwy ran o dair o’r bobl a ymatebodd i’r arolwg diweddar nad oeddent erioed wedi rhoi cynnig ar unrhyw fath o ddysgu ar-lein o’r blaen.

Roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn gyda thros 93% o’r dysgwyr a oedd wedi cwblhau’r holiadur yn nodi bod y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes yn ‘Dda iawn’ neu’n ‘Dda’.

Llunnir cyrsiau TG i bobl ar amrywiaeth o lefelau ac mae’r gwasanaeth hefyd yn gallu cynnig cymorth dros y ffôn drwy siarad â dechreuwyr i’w helpu i fynd ar-lein i gadw mewn cysylltiad â theuluoedd neu ffrindiau, siopa ar-lein neu ddefnyddio meddalwedd ac apiau.

 

 

%d bloggers like this: