04/27/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Dros pedwar deg grŵp yn derbyn arian i fynd i’r afael â thlodi bwyd

MAE dros 40 o elusennau a grwpiau gwirfoddol a chymunedol sy’n mynd i’r afael â thlodi bwyd wedi bod yn llwyddiannus yn eu ceisiadau am grantiau gan Gyngor Abertawe i gefnogi eu gwaith.

Caiff yr arian ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o gynlluniau, sy’n amrywio o erddi cymunedol yn tyfu cynnyrch ffres i grwpiau’n darparu cefnogaeth mewn argyfwng i bobl y mae angen bwyd arnynt ar frys.

Mae eraill yn gweithio gyda theuluoedd ac unigolion i roi’r sgiliau iddynt fel y gallant baratoi prydau iachus a maethlon rhad.

Mae rhai grwpiau’n defnyddio’r arian i fuddsoddi mewn cyfarpar newydd megis oergelloedd, rhewgelloedd, ffyrnau ac offer cegin ac i eraill, bydd yn helpu i dalu costau hyfforddiant i wirfoddolwyr neu drafnidiaeth.

Ar y cyfan, dyfarnwyd £155,000 yn dilyn dwy rownd o geisiadau i’r Gronfa Tlodi Bwyd ym mis Rhagfyr a mis Ionawr.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, Alyson Pugh, “Bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r sefydliadau hyn sy’n gweithio’n ddiflino i gefnogi pobl mewn gwir angen.

“Mae tlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd yn broblem go iawn i lawer o aelwydydd incwm isel, ac yn anffodus mae’r pandemig Coronafeirws dros y 12 mis diwethaf wedi arwain at fwy o bobl yn ennill llai o incwm, neu’n ei golli hyd yn oed.

“Rydym yn ffodus iawn yn Abertawe bod gennym gynifer o grwpiau cymunedol a llawr gwlad a chanddynt gynlluniau blaengar i helpu pobl pan fyddant mewn angen.

“Ar un llaw, rwy’n falch iawn ein bod ni, fel cyngor, yn gallu eu helpu i barhau ac i ehangu eu gwaith, ond ar y llaw arall mae’n drist bod angen y grwpiau hyn o gwbl.

“Byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i helpu’r rheini mewn angen ac i gefnogi’r elusennau a’r sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau mor hanfodol.”

%d bloggers like this: