04/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Hywel Dda residents urged to contact health board to book a first vaccine dose / Annog trigolion Hywel Dda i gysylltu â’r bwrdd iechyd er mwyn bwcio dos cyntaf brechlyn

MAE Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn gofyn i bobl gymwys sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro gysylltu os nad ydyn nhw wedi cael apwyntiad brechlyn cyntaf COVID.

Mae rhaglen brechu torfol y bwrdd iechyd ar y trywydd iawn i gynnig dos cyntaf brechlyn i bawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 i 9 erbyn dydd Sul 18 Ebrill.

Os yw un neu fwy o’r canlynol yn berthnasol i chi ac nad ydych wedi cael eich apwyntiad brechlyn cyntaf, cysylltwch â’r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 neu ar e-bost COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk erbyn dydd Gwener 16 Ebrill:

rydych yn 50 oed neu hŷn
rydych yn 16 i 64 oed a gennych gyflwr iechyd sy’n bodloi eisoes sy’n eich rhoi mewn mwy o risg o farwolaeth o COVID-19
rydych yn gweithio mewn cartref gofal neu yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro
rydych yn brif ofalwr di-dâl am oedolyn hŷn neu anabl sydd mewn mwy o risg o farwolaeth o COVID-19, neu am blentyn sydd â niwro-anableddau difrifol
Peidiwch â chysylltu â’ch meddygfa na’r bwrdd iechyd ar yr adeg hon i ofyn am eich ail apwyntiad brechlyn. Cysylltir â chi pan fydd eich tro chi.

Mae’r Prif Weithredwr Steve Moore yn annog pobl i gysylltu i sicrhau eu dos brechlyn cyntaf: “Pan wnaethom weinyddu’r brechlyn cyntaf ddechrau mis Rhagfyr roedd hi’n eiliad hynod o arwyddocaol yn y pandemig hwn.

 

“Ers hynny rydym wedi gweld ymateb ysgubol gan ein cymunedau ar draws y tair sir sydd wedi dod yng nghanol stormydd, eira, glaw a heulwen i gael eu brechlyn.

“Mae ein diolch i’ch ymdrechion chi, yn ystod yr hyn a fu’n aeaf anodd i’r mwyafrif, bod derbyniadau i’n hysbytai yn lleihau a nifer y marwolaethau o Coronafeirws sy’n cael eu riportio yn parhau i fod yn isel iawn.

“Tra bod y brechlyn yn rhoi gobaith inni i’r dyfodol, rhaid i ni barhau i weithredu i atal lledaeniad coronafeirws yn y gymuned a pharhau i ddilyn canllawiau COVID-19 ar ymbellhau cymdeithasol a gwisgo gorchudd wyneb i amddiffyn y rhai o’nch cwmpas.”

Mae’r bwrdd iechyd yn medru darparu cymorth cludiant i unrhyw un a allai ei chael hi’n anodd mynychu eu hapwyntiad brechu. Os nad oes gennych unrhyw ffordd arall o deithio, soniwch am hyn pan fyddwch yn cysylltu â ni i drefnu eich apwyntiad a byddwn yn hapus i’ch cynorthwyo.

I gael mwy o wybodaeth am raglen brechu torfol BIP Hywel Dda, trowch at https://hduhb.nhs.wales/healthcare/covid-19-information/covid-19-vaccination-programme/

Hywel Dda University Health Board (UHB) is asking eligible people living in Carmarthenshire, Ceredigion or Pembrokeshire to get in touch if they have not received a first COVID vaccine appointment.

The health board’s mass vaccination programme is on track to offer everyone in priority groups 1 to 9 a first vaccine dose by Sunday 18 April.

If one or more of the following applies to you and you have not received your first vaccine appointment, please contact the health board on 0300 303 8322 or by email COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk by Friday 16 April:

are aged 50 or over
are aged 16 to 64 and have underlying health conditions that put you at increased risk of COVID-19 mortality
work in a care home or in health and social care in Carmarthenshire, Ceredigion or Pembrokeshire
are the primary unpaid carer of an elderly or disabled adult who is at increased risk of COVID-19 mortality, or a child with severe neuro-disabilities
Please do not contact your GP practice or the health board at this time to ask about your second vaccine appointment. You will be contacted when it is your turn.

Chief Executive Steve Moore encourages people to get in touch to secure their first vaccine dose: “When we administered the first vaccine in early December it cannot be understated what a significant moment that was in this pandemic.

“Since then we have seen an overwhelming response from our wonderful communities across the three counties who have turned up in storms, snow, rain and sunshine to receive their vaccine.

“It is thanks to your efforts over what has been a difficult winter for most that admissions to our hospitals are reducing, and thankfully, numbers of deaths from Coronavirus being reported continues to stay very low.

“While the vaccine gives us hope for the future, we must still act to prevent the spread of coronavirus in the community and continue to follow the COVID-19 guidance of social distancing and face coverings to protect those around you.”

The health board has put in place transport support for anyone who may have difficulty attending their vaccination appointment. If you have no other means of travel, please mention this when you contact us to book your appointment and we will be happy to assist.

For more information about Hywel Dda UHB’s mass vaccination programme, please visit https://hduhb.nhs.wales/healthcare/covid-19-information/covid-19-vaccination-programme/

%d bloggers like this: