10/13/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Language of learning changed at four more primary schools

BYDD plant mewn pedair ysgol gynradd yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu haddysgu yn Gymraeg hyd nes eu bod yn saith oed, pan fydd rhieni wedyn yn gallu penderfynu pa iaith y maent am i’w plant barhau i ddysgu ynddi.

Roedd Cyngor llawn Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyfarfod ar 8 Ionawr, 2020, i gytuno ar y newid yn y ddarpariaeth iaith yn Ysgol y Ddwylan yng Nghastellnewydd Emlyn, Ysgol Griffith Jones yn Sanclêr, Ysgol Llangynnwr yng Nghaerfyrddin, ac Ysgol Llys Hywel yn Hendy-gwyn ar Daf – mae’r pedair ysgol yn lleoliadau dwy iaith ar hyn o bryd.

Mae’n dilyn proses hirfaith sy’n cynnwys ymgynghori helaeth ac mae’n ffurfio rhan o Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yr awdurdod, sy’n anelu at sicrhau bod mwy o blant yn gallu dysgu a siarad Cymraeg.

Ni fydd unrhyw newid i ddisgyblion cyfredol sy’n mynychu’r ysgolion, ond o fis Medi 2020, bydd unrhyw blant sy’n ymuno â dosbarthiadau cyfnod sylfaen yr ysgolion ar ddechrau tymor newydd yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, fel rhan o newid graddol.

Pan fydd plant yn dechrau Cyfnod Allweddol 2, tua saith oed, bydd gan rieni ddewis o ran pa iaith y maent am i’w plant barhau i ddysgu ynddi.

Mae darpariaeth iaith mewn nifer o ysgolion cynradd eraill Sir Gaerfyrddin wedi newid yn llwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf fel rhan o gynlluniau strategol yr awdurdod yn cyd-fynd â tharged Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i filiwn erbyn 2050.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin o’r farn fod addysg yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i gyrraedd y targed hwnnw.

Mae rhagor o wybodaeth am addysg ddwyieithog, a’r manteision o allu siarad dwy iaith i’w cael ar wefan y Cyngor, www.sirgar.gov.uk

CHILDREN at four Carmarthenshire primary schools will be taught in Welsh until they reach age seven, when parents can then decide what language they want their children to continue learning in.

Carmarthenshire County Council’s full council met on January 8, 2020, to agree the change in language provision at Ysgol Y Ddwylan in Newcastle Emlyn, Ysgol Griffith Jones in St Clears, Ysgol Llangynnwr in Carmarthen, and Ysgol Llys Hywel in Whitland – all four schools currently dual language settings.

It follows a lengthy process including extensive consultation and forms part of the authority’s Welsh in Education Strategic Plan, which aims to ensure more children can learn and speak Welsh.

There will be no change for current pupils attending the schools, but from September 2020, any children joining the schools’ foundation phase classes at the start of a new term will be educated through the medium of Welsh, as part of a phased change.

When children begin Key Stage 2, around the age of seven, parents will have a choice as to which language of education they want their children to continue learning in.

Language provision at a number of other Carmarthenshire primary schools have changed successfully in recent years as part of the authority’s strategic plans align to the Welsh Government target to increase the number of Welsh speakers in Wales to one million by 2050.

Carmarthenshire County Council sees education playing a key role in helping reach that target.

More information about bilingual education, and the benefits of being able to speak bilingually, can be found on the council’s website, www.carmarthenshire.gov.wales

%d bloggers like this: