04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Lansio Partneriaeth Coffi newydd i helpu ffermwyr a chynhyrchwyr yn y byd datblygol i daclo’r argyfwng hinsawdd

Mae Llywodraeth Cymru yn noddi partneriaeth fydd yn helpu mwy na 3,000 o ffermwyr Masnach Deg yng nghefn gwlad Uganda i gael pris teg am eu coffi – a’u helpu yr un pryd i ymladd yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.

Mae Llywodraeth Cymru yn noddi partneriaeth fydd yn helpu mwy na 3,000 o ffermwyr Masnach Deg yng nghefn gwlad Uganda i gael pris teg am eu coffi – a’u helpu yr un pryd i ymladd yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.

Mae’r Bartneriaeth Coffi Newid Hinsawdd ryngwladol, sydd â sefydliadau o Gymru ac Uganda yn aelodau ohoni, yn lansio menter newydd.

Bydd Llywodraeth Cymru’n noddi’r bartneriaeth i brynu coffi oddi wrth gynhyrchwyr yn Uganda ar gyfer ei fragu a’i yfed yma.

Mae’r Bartneriaeth yn ffrwyth bron 10 mlynedd o waith, sydd wedi gweld ffermwyr Masnach Deg ac organig ym Mbale, Uganda yn ymuno â mudiadau yng Nghymru i edrych ar ffermio, y newid yn yr hinsawdd a masnach gynaliadwy.

Mae ffermwyr yn ardal Mbale yn dioddef yn sgil effaith newidiadau eithafol yn yr hinsawdd gan gynnwys sychder, stormydd a thirlithriadau – ond nhw sydd wedi cyfrannu leiaf at y newid hwnnw yn yr hinsawdd.

Mae’r Bartneriaeth am sicrhau bod ffermwyr y rhanbarth yn cael pris teg am eu coffi a bywoliaeth gynaliadwy iddyn nhw eu hunain a’u cymunedau – i’w helpu i ddatblygu’r galluoedd i fedru cyfrannu at y frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd – a gwerthu coffi Masnach Deg ac Organig o’r ansawdd gorau i bobl Cymru.

Cyhoeddwyd nawdd Llywodraeth Cymru i’r fenter gan Eluned Morgan, y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol a’r Gymraeg, wrth lansio’r Bartneriaeth yn y Senedd gyda Jenipher Sambazi, ffermwr coffi ac is-gadeirydd MEACCE.

Dywedodd y Gweinidog: “Mae’r bartneriaeth hon yn ddatblygiad cyffrous iawn fydd yn golygu bod pobl yn tyfu coffi gwych am bris teg.

Mae’r newid yn yr hinsawdd wedi bod yn ddifaol i ffermwyr Uganda er mai ychydig iawn iawn o allyriadau maen nhw’n gyfrifol amdanyn nhw.

“Mae gan Gymru hen berthynas â Mbale ac rydyn ni am fanteisio ar bob cyfle i roi’r help sydd ei angen ar gymunedau sy’n gorfod delio â’r argyfwng hinsawdd ar lawr gwlad trwy fasnachu â nhw ar delerau Masnach Deg.”

“Dyma enghraifft wych o sut y gall yfwyr coffi yng Nghymru wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau’r bobl sy’n tyfu’r coffi.”

Dywedodd Jenipher Sambezi, “Os gallwn ni werthu’n coffi ar delerau Masnach Deg, bydd hynny’n helpu’n busnesau i dyfu ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd.”

“Mae Masnach Deg yn gwarantu pris gwell inni am ein coffi a bydd y gymuned yn gwario premiwm Masnach Deg ar brosiectau fydd yn ein helpu i wella’n bywydau.”

MEACCE yw un o’r 4 partner sy’n plannu coed gyda Maint Cymru ym Mbale. Mae rhagor na 10 miliwn o goed wedi’u plannu hyd yma ond y nod yw plannu 25 miliwn erbyn 2025.

Dywedodd Jenipher hefyd, “Mae coffi’n sensitif iawn i hyd yn oed y cynnydd lleia yn y tymheredd. Mae’r coed rydym ni’n eu plannu gyda help Cymru yn rhoi cysgod i gadw’n llwyni coffi rhag gordwymo ac yn cadw ansawdd ein coffi’n uchel.”

Ychwanegodd y Gweinidog: “Mae pob un o’r partneriaid yn cyfrannu at ei lwyddiant, ond rydym am chwarae’n rhan, fel Llywodraeth Cymru, i helpu lle medrwn, gan fod nodau’r Bartneriaeth yn cyfateb yn union i’r rheini a ddisgrifir yn ein Strategaeth Ryngwladol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.”

%d bloggers like this: