04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

BYDD  llyfrgelloedd Ceredigion yn agor i bori heb apwyntiad ar 09 Awst.

Bydd pobl yn gallu galw i mewn i’w llyfrgell leol i bori a dewis llyfrau yn eu hamser eu hun.

Bydd y gwasanaeth Clicio a Chasglu yn parhau i gwsmeriaid a bydd y Gwasanaeth Cyflenwi Cartref hefyd yn parhau ar gyfer cwsmeriaid bregus neu bobl sy’n gaeth i’r tŷ.

Cysylltwch â’ch llyfrgell i drefnu apwyntiad i ddefnyddio’r cyfrifiaduron cyhoeddus, neu i wirio’r oriau agor cyn ymweld. Mae rhifau cyswllt ac amseroedd agor ar gael ar wefan Llyfrgelloedd Ceredigion https://libraries.ceredigion.gov.uk/client/cy_GB/cer_cy/.

Dewch o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf ar dudalen Facebook Llyfrgell Ceredigion.

Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

%d bloggers like this: