03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Oes gennych chi le yn eich calon a’ch cartref i ofalu?

MAE cwpwl a ddaeth yn ofalwyr maeth bron blwyddyn yn ôl yn dweud ei fod wedi rhoi cryn falchder iddynt wrth helpu i newid bywyd ifanc er gwell.

Daeth Jo Merrett a Carl Wiltshire yn ofalwyr Maethu Abertawe yn 2020 a chyn Pythefnos Gofal Maeth, mae’r cwpwl wedi bod yn siarad am eu profiad.

Thema ymgyrch eleni, a gynhelir o 10 i 23 Mai yw #PamRydymYnGofalu.

Roedd Jo am ddod yn ofalwr maeth ar ôl sawl profiad gwaith lle treuliodd flynyddoedd lawer yn helpu pobl ddiamddiffyn, yr hen a’r ifanc fel ei gilydd.

Roedd gwylio’i modryb yn maethu llawer o blant a gweld faint o blant yr oedd angen help arnynt wedi helpu Jo i benderfynu ar hyn a phan gyfarfu â Carl, dywedodd wrtho am ei bwriad.

Meddai Jo:

“Cyn gynted ag y cawsom ein cymeradwyo fel gofalwyr maeth, cysylltwyd â ni ynghylch person ifanc a chanddo ADHD difrifol a oedd yn byw mewn lleoliad gofal preswyl. Fodd bynnag, yr hyn yr oedd ei angen ar y crwt ifanc hwn mewn gwirionedd oedd lleoliad maeth fel y gallai ffynnu a datblygu.

“Er ein bod yn gwybod y byddai heriau ar hyd y ffordd, roeddem yn fodlon ar y pecyn cefnogaeth ychwanegol a gynigiwyd sydd wedi’i deilwra, gan ddibynnu ar y person sy’n cael ei leoli gyda chi.

“Rydym eisoes wedi profi manteision a gwobrwyon bod yn ofalwyr maeth. Mae gweld y gwahaniaeth enfawr ynddo o’i gymharu â phan ddaeth aton ni gyntaf yn anhygoel. Rydym yn teimlo’n falch iawn ein bod wedi gweithio gydag e’ i newid rhai o’r pethau a oedd fwyaf heriol iddo.

“Pan fydd yn dweud pethau fel “Dwi am eich gwneud chi’n falch ohona i”, mae’n rhoi ymdeimlad enfawr o foddhad i ni.

“Drwy gynnig lleoliad i bobl ifanc sy’n byw mewn cartrefi preswyl, byddwch yn derbyn pecyn ariannol sy’n addas i’ch amgylchiadau personol, proses fesul cam o gwrdd a symud, cynllun seibiant byr hael, cyfarfodydd rheolaidd i sicrhau bod popeth yn mynd yn hwylus a chynigion o gefnogaeth a therapi helaeth lle bo’r angen.

“Byddem yn annog pobl eraill i agor eu cartrefi a’u calonnau i helpu i geisio gwneud gwahaniaeth i blant mewn angen oherwydd drwy helpu’r bobl ifanc hyn rydych yn cyfrannu at eich cymuned gyfan.”

Mae angen rhagor o ofalwyr maeth o bob math o gefndir, yn enwedig y rheini sy’n gallu darparu lleoliadau i grwpiau o frodyr a chwiorydd, arddegwyr, rhiant a phlentyn a phlant ag anghenion cymhleth.

Meddai Dave Howes, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Abertawe:

“Rydym yn ffodus iawn o gael gofalwyr gwych sy’n hynod ymroddedig i’r plant maent yn eu maethu. Mae’r gofal maen nhw’n ei roi ac yn ei ddangos yn rhagorol felly diolch i’r 148 o aelwydydd am yr ymroddiad parhaus maent yn ei roi i’r plant maent yn eu maethu.

“Gall dangos i’r plant a’r bobl ifanc eu bod o bwys mawr i chi newid eu bywydau. Gall gofalwyr maeth helpu’r plant hynny nad ydynt wedi cael y dechrau gorau mewn bywyd i ddechrau mwynhau eu bywydau a chredu ynddynt hwy eu hunain.”

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor am faethu i ddod i un o’r digwyddiadau gwybodaeth rhithwir a drefnir gan Faethu Abertawe.

Ddydd Mercher 12 Mai, 1pm-2pm a nos Fercher 19 Mai, 6pm-7pm bydd y tîm yn cynnal digwyddiadau gwybodaeth drwy Microsoft Teams lle gall pobl gael rhagor o wybodaeth am faethu a siarad â gofalwyr maeth.

I gadw lle ar gyfer y digwyddiad, e-bostiwch foster.swansea@swansea.gov.uk gan ddarparu enw cyswllt a chyfeiriad e-bost. Neu, ffoniwch (01792) 636103 a darparwch yr wybodaeth hon. Yna caiff dolen i’r digwyddiad ei hanfon atoch.

 

%d bloggers like this: