03/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Osian Jones yw brenin “chants” Ceredigion

MAE Osian Jones o Aberaeron wedi llwyddo i gyrraedd rhestr fer plant cynradd “Gwlad y Chants” sef cystadleuaeth creu “chant” pêl droed newydd i gefnogi Cymru yn Ewro 2020 gan y Mentrau Iaith a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Sea Chanty y Wal Goch” yw enw ymgais Osian ac mae wedi ei ddylanwadu gan y diddordeb mawr dros y misoedd diwethaf mewn siantis morwrol. Gan ddefnyddio alaw adnabyddus “Wellerman” gan Nathan Evans, mae Osian wedi gosod yn gelfydd ei eiriau ysbrydoledig ei hun sydd yn cyfeirio at rai o sêr Cymru fel Gareth Bale a Daniel James.

Er mwyn i Osian gipio’r gwobrau gwych sydd ar gael fe fydd angen eich cefnogaeth chi yn y bleidlais gyhoeddus fydd yn agored rhwng dydd Mercher, 2 Mehefin a dydd Gwener, 4 Mehefin ar gyfryngau cymdeithasol Mentrau Iaith Cymru.

Bydd enillydd pob categori yn derbyn crys Cymru wedi ei arwyddo gan y garfan ac fe fydd y prif enillydd yn cael y cyfle i ymweld â sesiwn ymarfer carfan Cymru pan fydd hynny’n ddiogel.

Cafodd y rhestrau byrion eu dewis gan banel o feirniaid oedd yn cynnwys cyflwynydd Sgorio Sioned Dafydd, y cerddor a chyflwynydd Y Wal Goch Yws Gwynedd, prif-leisydd band Y Cledrau Joseff Owen a’r ffan selog Gwenno Teifi.

Dywed Sioned Dafydd: “I fi mae chant pêl-droed da yn gorfod bod yn eithaf doniol, mae’n rhaid iddyn nhw fod yn syml a bydd pobl yn gallu dysgu’n gloi iawn. Fi wastad yn mwynhau bach o hiwmor mewn chant pêl-droed!”

Mae Gwlad y Chants yn ymgyrch ar y cyd rhwng y Mentrau Iaith a Chymdeithas Bêl-droed Cymru er mwyn clywed mwy o’r Gymraeg yn cael ei defnyddio ar y terasau yn y dyfodol.

Dywed Steffan Rees, Swyddog Datblygu Cymunedol Cered: Menter Iaith Ceredigion: “Mae chant Osian yn arbennig o dda. Mae’n cyfuno alaw adnabyddus, geiriau sy’n odli ac yn ffitio’n wych a churiad cryf. Gallai’n sicr ddychmygu hon yn gweithio fel chant go iawn mas yn Rhufain a Baku tase modd i’r Wal Goch deithio yno i gefnogi’r tîm cenedlaethol – cofiwch bleidleisio!”

I wylio’r ‘chant’ ac i bleidleisio ewch i www.mentrauiaith.cymru/gwlad-y-chants/.

%d bloggers like this: