04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Pennu cyllidebau Cyngor Sir Gar am y flwyddyn i ddod

MAE Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo ei gyllidebau ar gyfer 2022-23, sy’n cynnwys cynnydd cymedrol yn y dreth gyngor i gefnogi gwasanaethau rheng flaen hanfodol a buddsoddiad sylweddol mewn prosiectau adfywio allweddol.

Bydd y Dreth Gyngor yn cynyddu 2.5 y cant – tua 66c yr wythnos yn fwy ar gyfer aelwyd band D arferol, neu £34.07 y flwyddyn.

Mae’r Dreth Gyngor yn cyfrannu tua chwarter cyllideb refeniw flynyddol y Cyngor Sir sy’n cael ei gwario ar ddarparu gwasanaethau i breswylwyr a busnesau yn Sir Gaerfyrddin.

Mae’r rhan fwyaf o gyfraniadau’r Dreth Gyngor yn mynd tuag at wasanaethau addysg a phlant, ac yna gwasanaethau tai a gofal cymdeithasol i oedolion.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Yn 2022-23 bydd y cyfraniadau hefyd yn helpu’r Cyngor i ymdopi â phwysau chwyddiant, gan gynnwys biliau ynni cynyddol a chynnydd yng nghost darparu gwasanaethau fel prydau ysgol.

Bydd y gyllideb gyfalaf yn darparu buddsoddiad o £275 miliwn mewn prosiectau a fydd yn cynnwys cynlluniau adfywio, ailddatblygu ysgolion, gwelliannau i gyfleusterau hamdden, a chynlluniau gwastraff ac ailgylchu gwell.

Dywedodd y Cynghorydd David Jenkins, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, fod y cyllidebau wedi’u pennu yn dilyn rhoi ystyriaeth ofalus i adborth gan y cyhoedd. Arweiniodd hynny at waredu rhai cynigion ar gyfer arbedion, a gwelwyd cynnydd bach yn unig yn y Dreth Gyngor er mwyn cydnabod cynnydd yng nghostau byw.

“Drwy gynllunio ariannol gofalus, rydym ni wedi gallu pennu cyllideb gytbwys a fydd yn cefnogi’r Cyngor i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol, gan ymdopi ar yr un pryd â phwysau chwyddiant cynyddol,” meddai. “Yn ogystal â bod yn gynaliadwy, mae’r gyllideb hon yn uchelgeisiol, a bydd yn caniatáu i ni barhau i ddarparu gwasanaethau o’r radd flaenaf i drigolion a busnesau Sir Gaerfyrddin.”

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor, y byddai rhaglen gyfalaf y Cyngor yn cefnogi cynlluniau’r awdurdod i hybu’r economi, ysgogi twf, a chreu swyddi wrth adfer yn dilyn pandemig Covid-19.

Mae arian cyfalaf wedi cael ei neilltuo ar gyfer amrywiaeth o brosiectau trawsnewidiol, gan gynnwys Hwb iechyd, llesiant a gwasanaethau diwylliannol yng Nghaerfyrddin; cwblhau Llwybr Dyffryn Tywi rhwng Caerfyrddin a Llandeilo; a Pharth 1 o ddatblygiad iechyd, llesiant ac ymchwil Pentre Awel yn Llanelli.

Gwneir buddsoddiad sylweddol i barhau i wella ysgolion, cyfleusterau i’r anabl, casgliadau gwastraff ac ailgylchu, cyfleusterau hamdden a mwy.

Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb cyfreithiol i bennu cyllideb gytbwys bob blwyddyn, gan sicrhau bod incwm o ffynonellau megis y Dreth Gyngor, refeniw o grantiau a gwasanaethau y telir amdanynt yn ddigon i dalu am wariant sydd wedi’i gynllunio, yn ogystal â chael arian mewn cronfeydd wrth gefn i dalu am dreuliau heb eu cynllunio ac argyfyngau.

%d bloggers like this: