04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Peryg fydd cleifion iechyd meddwl bregus yn cael eu hanfon “i gefn y ciw”

MAE Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS yn dweud ei bod yn ”annerbyniol” troi ymaith gleifion sydd yn dal angen help wrth i lythyr a ddatgelwyd ac a welwyd gan Blaid Cymru, yn dangos fod claf wedi ei droi ymaith o wasanaethau cefnogi iechyd meddwl lleol yn Sir y Fflint oherwydd “sefyllfa Coronafeirws”.

Mae ofnau fod cleifion iechyd meddwl yn cael eu troi ymaith oddi wrth wasanaethau cefnogi iechyd meddwl oherwydd pwysau’r argyfwng Coronafeirws.

Dywed y llythyr fod cleifion wedi eu cynghori i drafod ail-gyfeirio gyda’u meddygon teulu “unwaith i’r cyfyngiadau gael eu codi”.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn “bryderus iawn” fod meddygon yn cael cyfarwyddyd i anfon cleifion bregus i “gefn y ciw”.

Meddai Mr ap Iorwerth, er ei fod yn deall y byddai oedi gydag apwyntiadau oherwydd Covid-19, fod troi ymaith gleifion sy’n derbyn cefnogaeth iechyd meddwl oherwydd problemau capasiti yn “annerbyniol”.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd cysgodol fod problemau yn cronni, gyda salwch meddwl heb dderbyn triniaeth neu ddiagnosis oherwydd yr argyfwng presennol, ac y dylai Llywodraeth Cymru fod yn edrych ar ffyrdd i “gynyddu cefnogaeth” i’r sawl â phroblemau iechyd meddwl yn hytrach na bod mewn sefyllfa lle’r oedd meddygon yn cael cyfarwyddyd i’w troi ymaith.

 Dywedodd y Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru :

“Mae’n achos cryn bryder fod meddygon yn cael cyfarwyddyd i anfon cleifion bregus gyda phroblemau iechyd meddwl yn ôl i gefn y ciw.

“Gallwn oll ddeall pam y bu’n rhaid newid gwasanaethau i adlewyrchu pwysau COVID-19, ac y mae rhywun yn deall pam y byddai oedi gydag apwyntiadau. Ond mae’n amlwg nad yw anfon ymaith glaf sy’n derbyn cefnogaeth iechyd meddwl, oherwydd problemau capasiti, yn dderbyniol o gwbl.

“Yn amlwg, ni ddylai hyn fod wedi digwydd a rhaid i ni wybod pam yr anfonwyd y neges hon. Gwyddom eisoes fod problemau yn cronni gyda chlefydau corfforol heb dderbyn triniaeth neu ddiagnosis oherwydd yr argyfwng presennol. Wel, mae’r un peth yn wir am iechyd meddwl. Mae angen i’r llywodraeth chwilio am ffyrdd o gynyddu cefnogaeth i’r sawl â phroblemau iechyd meddwl. Yn lle hynny, mae meddygon yn cael cyfarwyddyd i’w troi ymaith.”

Meddai Prif Swyddog Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, Geoff Ryall-Harvey:

“Cafodd gwasanaethau sylfaenol iechyd meddwl nad ydynt yn rhai brys eu hatal ar gyngor Llywodraeth Cymru, oherwydd problemau ymbellhau cymdeithasol. Mae’n hawdd deall hyn dan yr amgylchiadau presennol. Fodd bynnag, yn y gogledd, mae cleifion wedi derbyn y newyddion eu bod wedi eu troi ymaith o’r gwasanaeth ac y dylent geisio cael eu hail-gyfeirio at y gwasanaeth unwaith i “gyfyngiadau COVID-19 gael eu codi”.

 “Mae hyn yn achosi cryn bryder. Welwn ni ddim rheswm pam y dylai cleifion sydd eisoes â phroblemau iechyd meddwl gael eu troi ymaith. Ar hyn o bryd, mae cleifion angen cefnogaeth broffesiynol yn fwy nag erioed. Mae meddygon teulu lleol yn dweud wrthym fod nifer y cleifion sy’n dod atynt gyda phroblemau iechyd meddwl ar gynnydd, ac ar ôl COVID-19, gallai hyn achosi trafferthion.  Gallai hyn olygu y byddai cleifion yn cael anhawster derbyn triniaeth wrth i restrau aros gynyddu’n sylweddol.”

 

%d bloggers like this: