04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Prosiect yn codi ymwybyddiaeth am ddigartrefedd cudd

Mae fideo animeiddio byr wedi cael ei gynhyrchu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth am ddigartrefedd cudd a mynd o un soffa i’r llall.

Mae’r prosiect wedi’i gynhyrchu gan y tîm Digartrefedd, Atal, Ymwybyddiaeth, Dargyfeirio (DAYD), sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, sy’n ffurfio rhan o Wasanaeth Ieuenctid y Cyngor. Prif ganolbwynt y tîm yw atal digartrefedd ieuenctid.

Hefyd, mae pecyn addysgol wedi’i gynhyrchu i gyd-fynd â’r fideo, i’w ddefnyddio mewn ysgolion a lleoliadau ieuenctid eraill. Mae cyllid ar gyfer y fideo wedi’i ddarparu gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Caerffili Saffach.

Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth yn lleol a chyfeirio pobl ifanc at y gwasanaethau sydd ar gael i’w helpu nhw, mae’r prosiect hefyd yn cefnogi ymgyrch genedlaethol Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru.

Dywedodd y Cynghorydd Ross Whiting, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg a Chyflawniad:

“Mae digartrefedd cudd, yn anffodus, yn broblem i lawer o bobl ifanc. Nod y prosiect hwn yw sicrhau bod pobl ifanc yn gwybod â phwy i gysylltu os ydyn nhw mewn perygl o fod yn ddigartref neu’n poeni am rywun maen nhw’n ei adnabod. Rydyn ni hefyd yn gobeithio, trwy godi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc, y bydd modd herio’r stigma sy’n gysylltiedig â digartrefedd.”

%d bloggers like this: