04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Trigolion Ceredigion i ddweud eu dweud ar lwybrau Teithio Llesol ar gyfer y dyfodol

MAE Cyngor Sir Ceredigion wedi cyflogi Sustrans Cymru i gefnogi ei adolygiad o’i Rwydwaith Teithio Llesol.

Bydd canlyniad yr adolygiad yn rhoi blaen gynllun o lwybrau i Gyngor Sir Ceredigion y bydd yn ei ddefnyddio i lywio penderfyniadau ynghylch lle y gellir gwneud gwelliannau i gerdded a beicio yn y sir yn y dyfodol. Bydd yn helpu i wneud teithiau ar droed neu ar feic yn fwy hygyrch ac yn fwy diogel i bawb, yn enwedig i’r rheini nad ydynt yn cerdded neu’n beicio’n aml ar hyn o bryd a phobl sy’n defnyddio cymhorthion symudedd.

Yn rhan o’r ail gam hwn o ymgysylltu â’r cyhoedd, mae’r Cyngor Sir yn ceisio adborth ar Fapiau Rhwydwaith Teithio Llesol drafft arfaethedig ar gyfer cerdded a beicio yn Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan. Dynodwyd y tair tref yn gyrchfannau Teithio Llesol gan Lywodraeth Cymru, ac mae adolygiad o’r rhwydweithiau presennol yn un o ofynion Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.

Gan gefnogi’r gwaith hwn o ymgysylltu â’r cyhoedd, dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, Tai, a Chyswllt Cwsmeriaid: “Mae teithiau llesol yn cynnig ystod eang o fanteision gan gynnwys helpu i leihau carbon, gwella ansawdd yr aer yn lleol, a gwella iechyd a lles pawb. Mae hwn yn gyfle gwych i drigolion Ceredigion ddweud wrthym beth yr hoffent ei weld yn cael ei gynnwys yn ein Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn y dyfodol.”

Er mwyn dylunio rhwydwaith sy’n gweithio i bawb, hoffai’r Cyngor gael barn cynifer o bobl â phosibl, yn enwedig y rheini sy’n dewis peidio â gwneud teithiau cerdded a beicio byrrach, neu nad ydynt efallai’n gallu gwneud hynny ar hyn o bryd.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut i roi adborth, ewch i dudalen Theithio Llesol ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/teithio-ffyrdd-a-pharcio/teithio-llesol/

 

%d bloggers like this: