03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

£11m ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i Gronfa Cymorth Dewisol

MAE Llywodraeth Cymru yn rhoi £11m ychwanegol i’r cyllid ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol (CCD) er mwyn gallu cefnogi’r galw am gymorth ariannol gan bobl ledled Cymru o ganlyniad i bandemig y coronafeirws.

Wrth i’r cyfyngiadau aros gartref barhau, mae teuluoedd wedi bod yn troi at y gronfa am gymorth ychwanegol i’w helpu gyda rhywfaint o’r pwysau ariannol a’r heriau maent yn eu hwynebu.

Yn y cyfamser, mae’r Gweinidog ar gyfer Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, wedi galw ar Lywodraeth y DU i wneud newidiadau brys i’r Taliadau Tai Dewisol (TTD) i helpu i warchod mwy o bobl sy’n wynebu caledi ac i ddarparu cymorth cyflymach i’r rhai sydd ei angen.

Wrth gyhoeddi’r cyllid ychwanegol ar gyfer y CCD, dywedodd y Dirprwy Weinidog ar gyfer Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:

“Mae’r coronafeirws yn cael effaith ddramatig ar gyllid pobl a theuluoedd gyda hawliadau am Gredyd Cynhwysol a’r galw ar y CCD yn fwy nag erioed.

“Dyma rai o’r bobl mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ni sydd, heb unrhyw fai ar eu rhan hwy, yn wynebu newid enfawr yn eu hamgylchiadau. Mae’n gwbl briodol ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i’w gwarchod nhw rhag y pwysau ariannol eithriadol.

“Bydd y cyllid rwyf yn ei gyhoeddi heddiw’n ein helpu i gefnogi cymaint o bobl ag y gallwn ni drwy’r cyfnod hwn o galedi ariannol.”

Mae’r CCD yn darparu arian grant i gefnogi pobl sy’n wynebu caledi eithafol. Bydd llawer o’r bobl yma y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas oherwydd problemau cysylltiedig â thlodi a phroblemau corfforol a meddyliol ac felly maent yn wynebu mwy o risg o effeithiau’r coronafeirws.

Mae’r Gweinidog ar gyfer Tai a Llywodraeth Leol Julie James wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU gan ei hannog i newid y Taliadau Tai Dewisol. Mae’r rhain ar gael i bobl sy’n derbyn Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol, ond mae’n rhaid iddynt aros o leiaf bum wythnos cyn eu derbyn.

Nid oes gan bobl nad oes ganddynt hawl i’r un o’r ddau fudd-dal yma, ond sydd ar incwm is oherwydd y coronafeirws, hawl i’r taliadau.

Mae’r Gweinidog yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud newid parhaol i roi hawl i bawb sy’n hawlio Credyd Cynhwysol i gael TTD o ddyddiad eu hawlio, yn hytrach nag aros am bum wythnos.

Hefyd mae eisiau gweld newid dros dro i roi mynediad i’r TTD i’r rhai sy’n wynebu anawsterau gyda thalu costau cysylltiedig â thai o ganlyniad i’r coronafeirws ond nad ydynt yn derbyn y budd-daliadau hyn.

Dywedodd Ms James:

“Rydw i’n bryderus iawn y bydd tenantiaid yn y sector cymdeithasol a rhent preifat yn wynebu anawsterau gyda thalu costau tai ac yn wynebu llai o incwm oherwydd yr argyfwng presennol.

“Wrth gwrs, rydyn ni’n annog unigolion a theuluoedd i ofyn am gefnogaeth drwy Gredyd Cynhwysol a’r amrywiaeth o gynlluniau sydd gan y llywodraeth, ond mae llawer yn dal i wynebu anawsterau ariannol, ac mae’n rhaid i ni wneud cymaint â phosib i’w cefnogi nhw. Felly rydw i wedi gofyn i Lywodraeth y DU ystyried y newidiadau hyn fel cyfrwng i gynnig cefnogaeth hanfodol ar unwaith ac yn y tymor hwy i denantiaid ar incwm isel.”

%d bloggers like this: