12/03/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

£20m i wella cyfleusterau anghenion dysgu ychwanegol

MAE Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles wedi cyhoeddi £20 miliwn o gyllid i awdurdodau lleol er mwyn gwella neu greu mannau a chyfleusterau cynhwysol i gefnogi dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Gellir defnyddio’r cyllid, er enghraifft, i greu mannau tawel neu synhwyraidd, uwchraddio neu brynu offer newydd fel cymorthyddion synhwyraidd arbenigol, ac ar gyfer gwaith i wneud amgylcheddau dysgu yn fwy cynhwysol.

Bydd y cyllid yn cael ei ddosbarthu drwy awdurdodau lleol er mwyn cefnogi ysgolion prif ffrwd, ysgolion arbennig neu unedau cyfeirio disgyblion.

Bydd y buddsoddiad yn cefnogi’r broses o weithredu’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn ogystal â chefnogi’r Cwricwlwm i Gymru drwy sicrhau bod pob dysgwr yn cael eu dysgu mewn ystafelloedd dosbarth a gofodau sydd â’r technolegau a’r cyfleusterau sydd eu hangen arnynt. Penderfynir ar y gwelliannau ar sail angen lleol, ac awdurdodau lleol fydd yn penderfynu sut mae’r cyllid yn cael ei ddosbarthu.

Yn ddiweddar mae Ysgol Uwchradd Whitmore yn y Barri wedi cwblhau Canolfan Adnoddau Awtistiaeth arbenigol newydd o ganlyniad i gyllid gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Mae’r ganolfan newydd yn cynnig amgylchedd tawelach digynnwrf i ddisgyblion sydd angen gorffen gwaith neu gymryd ychydig o amser i ymdawelu, ac ystafelloedd synhwyraidd tawel (gyda golau synhwyraidd a phethau synhwyraidd fel blancedi trwm a theganau ‘ffidlan’). Mae hefyd yn cynnig cyfleusterau cegin ar gyfer sesiynau coginio, gofod awyr agored ar gyfer gweithgareddau corfforol, a Daisy, ci lles sydd yn gysur anhygoel i’r disgyblion.

Dywedodd Innes Robinson, Pennaeth yr ysgol:

“Mae’n Canolfan Awtistiaeth yn rhoi profiad ysgol prif ffrwd mewn lleoliad arbenigol i ddisgyblion, lle defnyddir empathi i wneud pob penderfyniad. Rydym yn gweithio’n agos gyda theuluoedd ac yn deall ein bod ar daith bwysig gyda nhw. Mae ein darpariaeth yn rhan ganolog o Ysgol Uwchradd Whitmore ac rydym eisiau i’n disgyblion deimlo eu bod yn cael eu cynnwys yn llawn ym mywyd yr ysgol ac yn cael yr un cyfleoedd â disgyblion eraill.”

Mae Ysgol Dinas Brân yn Llangollen hefyd wedi derbyn cyllid gwella ADY fel rhan o brosiect Havens, yn ogystal ag ysgolion eraill yn Sir Ddinbych. Model o greu gofodau o fewn ysgolion prif ffrwd yw prosiect Havens, sy’n pontio bwlch i ddisgyblion sy’n ei chael hi’n anodd mynychu ysgol prif ffrwd yn llawn amser.

Yn Ysgol Dinas Brân, mae’r cyllid wedi ei ddefnyddio i greu gofod lles o’r enw Hafan. Mae’r Hafan yn cynnwys ‘ystafell werdd’ i ddisgyblion gael amser i ymdawelu pan fydd angen hynny arnynt, ac mae ffocws ar fan gwyrdd gyda gofod awyr agored ar gyfer plannu, a llefydd i eistedd lle gall y disgyblion ymlacio a mwynhau eu hunain.

Meddai y Pennaeth, Mark Hatch:

“Mae’r gofod hwn yn gweithio’n arbennig o dda i’r disgyblion ac mae wedi bod yn fuddsoddiad gwych.”

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

“Bydd y buddsoddiad hwn yn gwneud gwir wahaniaeth i ddysgwyr sydd ag anghenion ychwanegol ledled Cymru, gan sicrhau bod y cyfleusterau angenrheidiol ganddynt i gefnogi eu dysgu.

Rwyf am sicrhau ein bod yn cefnogi ac yn ysbrydoli pob dysgwr i gyrraedd ei lawn botensial, a dyna pam bod gweithredu ein Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol yn greiddiol i’n rhaglen ehangach o ddiwygio addysg.

Yn ddiweddar adroddodd Estyn ar y cynnydd cyson sy’n cael ei wneud tuag at ddiwygio ADY, a chefnogaeth gadarn gan y sector. Mae’n bwysig bod buddsoddi mewn lleoliadau addysg yn ategu’r broses honno.”

%d bloggers like this: