04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

233 o Flynyddoedd o Wasanaeth o fewn un Cylch Meithrin

MAE Cylch Meithrin Saron a’r Hendre, yn Rhydaman, yn gylch arbennig iawn gan fod yno bedwar gwirfoddolwr a dau aelod o staff sydd, gyda’i gilydd, wedi rhoi dros 233 o flynyddoedd o wasanaeth i’r Mudiad. Byddant yn cael eu hanrhegu yn y Cylch Meithrin am 11.00 fore dydd Iau 23ain o Ionawr yng nghwmni Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin.

Rhwng y Parchedig Lyn Rees (51 mlynedd fel y Cadeirydd), ei wraig Heulwen Rees (51 mlynedd fel Ymddiriedolwr), Gaynor Parry (51 mlynedd fel Ymddiriedolwr), Janine Williams (35 mlynedd fel Arweinydd a Chynorthwy-ydd), Eirwen Clarke (23 mlynedd fel y Trysorydd), a Myfanwy Price (22 mlynedd fel yr Arweinydd) mae’r chwech gyda’i gilydd wedi gweithio am 233 o flynyddoedd yn ddiflino er lles y Gymraeg trwy roi eu gwasanaeth i’r Cylch Meithrin lleol.

Mae’r chwech yn dal i fwynhau gweithio er budd y cylch a dywedodd Arweinydd presennol y cylch, Myfanwy Price:

Mae’r cylch wedi cynnig cymaint o gyfleoedd i fi a gweddill y staff a gwirfoddolwyr, felly, mae’n hyfryd cael y cyfle i roi yn ôl i’r Mudiad. Rydw i wedi mwynhau bob eiliad o weithio fel Arweinydd a Chynorthwy-ydd Cylch Meithrin Saron a’r Hendre dros y 22 o flynyddoedd diwethaf .”

Mae dros 51 o flynyddoedd ers i Gylch Meithrin Saron a’r Hendre gael ei sefydlu yn Rhydaman ac mae 31 o blant yn ei fynychu’n bresennol gydag amcangyfrif o 1,500 o blant wedi mynychu ers sefydlu’r cylch ym 1968.

Dywedodd Tanwen Randell Davies, Swyddog Cefnogi Mudiad Meithrin yn yr ardal:

Braf yw gweld cymaint o ymrwymiad i’r cylch gan y chwech yma. Does dim amheuaeth bod Mudiad Meithrin yn ddiolchgar iawn iddynt am eu holl waith caled ac mae’n bleser gennyf eu bod yn cael eu gwobrwyo heddiw fel arwydd o’n gwerthfawrogiad am eu cefnogaeth ddiflino.”

Ategodd Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

Oni bai am gyfraniad miloedd o wirfoddolwyr fel y chwech o Saron a’r Hendre ar hyd y blynyddoedd, ni fyddai Cylchoedd Meithrin a Chylchoedd Ti a Fi yn gallu parhau i gynnig gwasanaethau rif y gwlith i blant a theuluoedd ledled y wlad. Rydym yn hynod ddiolchgar iddynt oll”.

Bydd modd enwebu gwirfoddolwyr a staff sydd wedi rhoi dros 20 mlynedd o wasanaeth trwy lenwi ffurflen enwebu syml ar ein gwefan ar fydd ar agor o 25 Ionawr hyd at 31 Gorffennaf 2020 – www.meithrin.cymru/enwebu

%d bloggers like this: