04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Abertawe’n dathlu menywod sydd wedi llywio’r ddinas

MAE Cyngor Abertawe’n dathlu ac yn tynnu sylw at fenywod sydd wedi chwarae rôl hanfodol yn hanes y ddinas a’r rhai sy’n parhau i wneud hynny.

Ddydd Llun (8 Mawrth) caiff Neuadd y Ddinas ei goleuo’n borffor yn ystod y nos i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Yn y cyfamser, yn ystod mis Mawrth mae gwasanaethau diwylliannol y cyngor wedi trefnu amrywiaeth o weithgareddau ar-lein sy’n seiliedig ar thema er mwyn dathlu Mis Hanes Menywod.

Mae Gwasanaeth Dylan Thomas yn defnyddio ei gasgliad i archwilio awduron, artistiaid a ffotograffwyr benywaidd ac mae hefyd yn rhannu cyfres o flogiau sy’n edrych ar fam Dylan, Florence Thomas.

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn cyflwyno rhaglen mis o hyd o negeseuon cyfryngau cymdeithasol a fydd yn cynnwys gwaith celf, ffilm, a chlipiau sain gan artistiaid benywaidd sydd wedi arddangos yn yr oriel yn y gorffennol, yn ogystal â thynnu sylw at ddwy arddangosfa bresennol sy’n cynnwys yr artistiaid benywaidd o Gymru, Kathryn Ashill ac Anya Paintsil.

Mae Amgueddfa Abertawe’n cyflwyno deunydd ar-lein o’i harddangosfa yn 2018 a oedd yn edrych ar gyflwyno Deddf Cynrychiolaeth y Bobl ym 1918, a oedd wedi rhoi’r bleidlais i fenywod dros 30 oed, a bydd hefyd yn rhannu portreadau bychain o fenywod sy’n gysylltiedig â hanes yr amgueddfa ei hun.

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Abertawe’n defnyddio ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol i arddangos 10 llyfr gan awduron benywaidd neu am fenywod ysbrydoledig y mae’n rhaid i chi eu darllen. Bydd hefyd yn rhannu negeseuon dyddiol am fenywod dylanwadol o Abertawe a Chymru a llyfrau perthnasol o gasgliadau.

Ddydd Llun bydd y gwasanaethau diwylliannol hefyd yn rhannu blog am fenywod ysbrydoledig o Abertawe gan gynnwys Amy Dillwyn, Emily Phipps, Clara Neal, Jessie Donaldson, y chwiorydd Ace a Val Feld.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gymunedau Gwell, Louise Gibbard:

“Thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni yw Dewis Herio ac mae nifer o bobl yn Abertawe sydd wedi gwneud hynny.

“Fel cyngor rydym yn ymrwymedig i anrhydeddu a pharhau gyda’u gwaith. Trwy waith y Ganolfan Ddomestig byddwn yn herio cam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod, ac yn ystod y pandemig ni oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i ddatblygu sgwrsfot uwch-dechnoleg fel bod cefnogaeth ar gael 24/7.

“Rydym hefyd yn herio tlodi’r misglwyf yn Abertawe trwy ddarparu grantiau i fanciau bwyd a grwpiau cymunedol sy’n dosbarthu padiau, tamponau ac opsiynau ailddefnyddiadwy i’r rheini y mae eu hangen arnynt fel nad oes angen i unrhyw un ddioddef heb yr eitemau hanfodol hyn.

“Y mis hwn bydd y cyngor hefyd yn datgelu plac glas yng nghanol y ddinas i anrhydeddu Jessie Donaldson, menyw o Abertawe a deithiodd i America 170 o flynyddoedd yn ôl, lle brwydrodd yn ddewr yn erbyn caethwasiaeth a’i herio.”

%d bloggers like this: