04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

MAE ail gam y rhaglen profi cymunedol ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi dechrau.

Dros y tair wythnos nesaf, bydd preswylwyr yn gallu manteisio ar y cyfleusterau profi cymunedol am ddim mewn tair canolfan wahanol.

Gall unrhyw un sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yn y fwrdeistref sirol gael prawf yn y canolfannau erbyn hyn. Mae hyn hefyd yn cynnwys unrhyw un sy’n ymweld â’r fwrdeistref sirol.

Ceir ragor o wybodaeth,ar dudalen profi cymunedol yn www.bridgend.gov.uk

Mae’r profion cymunedol, sydd wedi’u cynllunio i adnabod pobl a allai fod â coronafeirws heb yn wybod iddynt, wedi’u hanelu at bobl 11 oed a throsodd nad ydynt eisoes yn arddangos symptomau’r feirws.

Mae’n helpu i atal pobl asymptomatig rhag lledaenu’r feirws yn ddiarwybod i’w teulu, ffrindiau, cymdogion, cydweithwyr a mwy.

Gan ei bod yn bosibl i bobl sydd wedi cael eu brechu barhau i gario’r feirws, mae’r profion yn cynnwys preswylwyr a allai fod eisoes wedi cael prawf neu sydd wedi cael dos o’r brechlyn.

Bydd y canolfannau galw heibio, lle cynhelir y gwaith profi cymunedol, ar gael rhwng 9.30am-6.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a 10am-4pm ar ddydd Sadwrn a Sul. Mae’r lleoliadau fel a ganlyn:

Cwm Ogwr: Cynhelir profion yng Nghanolfan Fywyd Cwm Ogwr, Ffordd Aber, Cwm Ogwr CF32 7AJ o ddydd Mercher 7 Ebrilltan ddydd Mawrth 13 Ebrill.

Pen-y-bont ar Ogwr: Cynhelir profion yn Neuadd Fytholwyrdd, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Owr CF31 4AD o ddydd Mercher 14 Ebrilltan ddydd Mawrth 20 Ebrill.

Porthcawl: Bydd profion yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Gymunedol Awel-y-Môr, Teras Hutchwns, Porthcawl CF36 5TP o Ddydd Mercher 21 Ebrill i Ddydd Mercher 28 Ebrill.

Yn y canolfannau, bydd staff yn arwain pobl at fythod lle gallant wneud prawf swab. Bydd y swab yn cael ei brosesu ar y safle, a chysylltir â chyfranogwyr o fewn 30 munud gyda’r canlyniadau.

Os bydd canlyniad positif yn cael ei gofnodi, gofynnir i’r unigolyn hunanynysu tra bo trefniadau’n cael eu gwneud iddynt gael prawf cadarnhau a rhagor o gyngor a chymorth.

 

%d bloggers like this: