MAE Pont y Gored Ddu wedi ailagor ar ôl i’r contractwyr sy’n gweithio ar ran Prifysgol Caerdydd gwblhau’r atgyweiriadau i ddiogelu strwythur y bont.
Mae arwyddion newydd wedi cael eu gosod yn gofyn i bobl gadw i’r chwith, cynnal hylendid dwylo ac anadlol da, a pheidio ag aros ar y bont.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:
“Drwy gydol y pandemig rydym wedi gwneud, a byddwn yn parhau i wneud, y cyfan y gallwn i gadw Caerdydd yn ddiogel a chyfyngu ar ledaeniad Covid-19. Ond rydym hefyd am alluogi pobl i symud yn ddiogel ac yn hawdd o amgylch y ddinas, ac rwy’n falch bod yr holl waith strwythurol angenrheidiol bellach wedi’i gwblhau a bod modd ailagor y bont yn ddiogel.”
Codwyd rhwystrau i atal pobl rhag defnyddio’r bont i groesi Afon Taf ddiwedd mis Ebrill 2020 ar ôl i sawl rhybudd i gynnal pellter cymdeithasol drwy groesi’r bont mewn un cyfeiriad ar y tro gael ei anwybyddu.
Cynhaliwyd asesiadau risg Covid-19 gan Gyngor Caerdydd y llynedd gan ystyried y newidiadau i’r ddealltwriaeth wyddonol o sut mae’r feirws yn cael ei drosglwyddo, ond cyn ailagor y bont cynhaliodd Prifysgol Caerdydd arolwg strwythurol ohoni a ddatgelodd difrod i ddeciau’r bont, a achoswyd gan dân, a difrod i nifer o baneli rhwyll ar ôl i goeden fwrw’r bont yn ystod stormydd y gwanwyn diwethaf.
More Stories
Llacio rhagor o’r cyfyngiadau coronafeirws yn gynt
Cynlluniau gwerth £3m ar gyfer gwelliannau rwydwaith teithio llesol a llwybrau diogel
Ymgynghoriad i gynddu nifer disgyblion Ysgol Arbennig Pen-y-Cwm
Cymeradwyo symud ymlaen gydag Ysgol Gynradd Gymraeg newydd yn Nhredegar
Canmoliaeth i Zach am feddwl yn gyflym
Goleuadau dros dro yn cynnig golwg o ddyfodol Mae Copr